Neil Hamilton yn gwadu penodi ei wraig fel cynorthwydd

  • Cyhoeddwyd
Neil Hamilton
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil Hamilton ei ethol i'r Cynulliad fis Mai eleni

Mae arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton, yn dweud mai nid fo oedd yn gyfrifol am benodi ei wraig, Christine, fel cynorthwy-ydd personol.

Mae pedwar AC UKIP yn cyflogi aelodau o'u teulu, ynghyd â phedwar AC Llafur a phedwar o'r Ceidwadwyr.

Fe ddywedodd Mr Hamilton mai'r Cynulliad sy'n gyfrifol am gyflogi perthnasau, a nid yr aelodau unigol.

"Doedd gen i ddim rhan o gwbl ym mhenodiad fy ngwraig fel cynorthwy-ydd ac ysgrifenyddes dyddyddiadur," meddai wrth raglen Wales Report y BBC.

"Mae ganddi hi 26 mlynedd o brofiad yn Nhŷ'r Cyffredin fel sylfaen, ac mae hi'n gweithio 24/7, achos 'dyn ni'n siarad am bethau yn y gwely."

Dydi cyflogi perthnasau ddim yn torri unrhyw reol yn y Cynulliad.

Ychwanegodd Mr Hamilton mai nid UKIP yn unig oedd yn penodi perthnasau yn aelodau o'u staff, a dywedodd bod yn rhaid i bawb lwyddo mewn "proses ddewis ffurfiol o dan ofal adran adnoddau dynol y Cynulliad."

Rhestr lawn

Yn ôl cofrestr buddiannau aelodau'r cynulliad, mae'r ACau canlynol yn cyflogi aelodau o'u teulu:

  • Mohammad Asghar, Ceidwadwyr, sy'n cyflogi ei wraig, Firdaus a'i ferch, Natasha.

  • Michelle Brown, UKIP, sy'n cyflogi ei brawd, Richard Baxendace.

  • Angela Burns, Ceidwadwyr, sy'n cyflogi ei gŵr, Andrew.

  • Rebecca Evans, Llafur, sy'n cyflogi ei gŵr, Paul, a'i chwaer, Claire Stowell.

  • John Griffiths, Llafur, sy'n cyflogi ei wraig, Alison.

  • Neil Hamilton, UKIP, sy'n cyflogi ei wraig, Christine.

  • Mark Isherwood, Ceidwadwyr, sy'n cyflogi ei wraig, Hilary.

  • Darren Millar, Ceidwadwyr, sy'n cyflogi ei wraig, Rebekah.

  • Mark Reckless, UKIP, sy'n cyflogi ei wraig, Catriona.

  • David Rees, Llafur, sy'n cyflogi ei ferch, Angharad Thomas.

  • David Rowlands, UKIP, sy'n cyflogi ei wraig, Keryn.

  • Joyce Watson, Llafur, sy'n cyflogi ei merch, Fiona Openshaw.

The Wales Report, BBC One Wales, 22:40 nos Fercher, 2 Chwefror.