Y ffilm wnaeth ddychryn plant Cymru
- Cyhoeddwyd
I rai Cymry sydd bellach yn eu 40au mae'r geiriau O'r Ddaear Hen yn dal i ddod ag atgofion arswydus yn ôl am drip ysgol hwyliog a drodd yn hunllef 35 mlynedd yn ôl.
Un o'r ffilmiau arswyd cyntaf yn y Gymraeg gan y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg oedd O'r Ddaear Hen, wedi ei chyfarwyddo gan Wil Aaron.
Pan gafodd ei rhyddhau yn 1981 penderfynodd y Bwrdd y byddai'n syniad da mynd â phlant o ysgolion cynradd i weld y ffilm am hen ben carreg Celtaidd oedd yn creu hafoc ac ofn yn Sir Fôn.
Ar ôl cael ei ddarganfod yn yr ardd, mae'r pen dieflig o'r cyn oesau yn ymddangos o nunlle i ddychryn (a gwaeth) actorion profiadol fel Charles Williams, Elen Roger Jones a JO Roberts.
Un sy'n dal i ddisgwyl gweld yr "ymwelydd erchyll o olygfeydd ffilm enbyd fy mhlentyndod" ydy Mari Williams sy'n esbonio'r "trawma" achosodd y ffilm iddi bron i ddeugain mlynedd yn ôl.
"Dwi'n bachu cawod sydyn yn y prynhawn. Mae'n braf, yn olau, dwi'n hapus, yn ddi-hid yn estyn am y shampŵ, yn mwmial yn hwyliog hefo ryw gân radio … Ac yn rhewi.
"Dwi'n dal fy ngwynt, fy mraich yn dal yn estyn am y botel shampŵ … Sŵn traed ar y landin. Ai fo sy'n cerdded yn araf i lawr y coridor? Ydi wedi dod amdana i?
"Dwi'n gyrru'r car yn y tywyllwch. Dwi'n edrych yn y drych, ac yn ôl o mlaen. Ond mae fy llygaid yn cael eu denu'n ôl i'r drych. Welais i o?
"Dwi'n trio rhoi cip sydyn dros f'ysgwydd ar y sêt gefn, er mod i'n gyrru. Oedd o yno? Ai helmed a chyrn fel carw welais i yn y drych? Dwi'n rhoi nhroed ar y sbardun i symud yn gynt i gyrraedd diwedd fy ofn.
"Naw oeddwn i a dwi'n cofio'r cynnwrf o gael mynd i Neuadd Buddug, Y Bala, o Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn i weld y ffilm.
"Ai ryw ffilm fer hefo Syr Wynff ap Concord a Plwmsan oedd gynta? Dwi ddim yn cofio. Ond dwi yn cofio dod oddi yno yng nhefn car Mam hefo criw o ffrindie, yn teimlo reit od a chrynedig a ddim yn siŵr iawn be oedden ni newydd ei weld.
"Mi ges i fy magu mewn hen ffermdy yn llawn coridorau tywyll a lloriau gwichlyd. Nid mod i erioed wedi sylwi ar hynny cyn y ffilm.
"Dwi'n cofio gorwedd yn fy ngwely y noson honno wedi fy fferu gan ofn, yn sicr bod dyn hefo cyrn yn sefyll y tu allan i'r llofft.
"Dwi rioed wedi teimlo ofn o'r fath. Ac er mod i yn hogan fawr naw oed, dwi'n cofio rhedeg at Mam a Dad y noson honno a dweud bod gen i gur pen ofnadwy. A Mam yn dweud wrtha i ddod i mewn i'r gwely atyn nhw.
"Roedd gen i gur pen y noson wedyn a'r un wedyn, ac am amser hir iawn. Yn sydyn, hyd yn oed mewn golau dydd, roedd picio i'r llofft ar ben fy hun i nôl ryw lyfr neu rhywbeth yn brofiad dychrynlllyd, a finne yn gorfod rhoi bob golau mlaen a'i heglu hi nôl lawr grisie cyn i rywun switsio'r golau i ffwrdd.
"Weithie mae'r un hen ofn yn dod drosta i. Dw i'n casau ffilmiau arswyd hefo cas berffaith.
"Barn pen dafad, neu ben carw, pwy oedd bod hon yn ffilm i blant? Mae wedi creu oriau o golli cwsg, blynyddoedd a drawma, ac yn agos i ddamwain ambell dro - dydi troi rownd i edrych os oes dyn hefo cyrn ar set gefn y car, tra'n gyrru, ddim i'w gynghori."
Cwynion
Nid Mari oedd yr unig un. Ar ôl y dangosiadau roedd 'na adroddiadau ym mhapurau newydd Y Cymro a'r Daily Post am gwynion gan rieni ac athrawon am yr holl blant bach roedd y ffilm wedi effeithio arnyn nhw.
Mae Kate Woodward yn dweud yr hanes yn ei llyfr Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith?: Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg:
"Aethpwyd â'r ffilm ar daith o Gymru, gyda sêl bendith y cyfarwyddwyr addysg perthnasol, gan ymweld â chanolfannau yng Nghaernarfon, y Bala, Dinbych, Pwllheli, Machynlleth, Llangefni, Aberystwyth a Harlech.
"Ar dudalen flaen Y Cymro, dan y pennawd bras 'Dychryn y plant', yn ogystal ag ar dudalennau'r Daily Post, adroddodd y papurau i nifer o athrawon a rhieni anfon llythyrau i gwyno wrth Gwilym Owen wedi i'r ffilm gael ei harddangos."
Gwilym Owen oedd Pennaeth y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg ac roedd y cwynion a gafodd yn sôn am blant oedd wedi eu troi yn rhai "hollol ofnus a nerfus" oedd ag "ofn mynd i gysgu" ac yn "gwlychu'r gwely".
Wrth siarad am y ffilm ar raglen Cofio, BBC Radio Cymru yr wythnos hon, dywedodd y cyfarwyddwr Wil Aaron: "Dwi ddim yn siŵr p'run ai compliment yw hwnna neu beirniadaeth!"
'Diniwed'
Ffilm gynharach gan Wil Aaron oedd y "comedi tywyll" Gwaed ar y Sêr, 1976, oedd yn dangos pobl enwog fel Hywel Gwynfryn, Dafydd Iwan, Barry John a Thelynores Dwyryd yn cael eu lladd mewn gwahanol ffyrdd bisâr.
Fe gafodd hithau ei dangos i blant mewn gwahanol ganolfannau hefyd.
"Y broblem gyda ffilmiau Cymraeg bryd hynny," meddai Wil Aaron "oedd fod pawb yn cymryd yn ganiataol bod nhw y math o beth fyse'n cael ei ddangos yn yr Ysgol Sul.
"Oedd neb yn ystyried falle bod na 'chydig bach o ryw a chydig bach o ofn ynddyn nhw ..."
Roedd hi'n oes wahanol ac mae Wil Aaron yn disgrifio O'r Ddaear Hen fel ffilm "ddiniwed" iawn erbyn hyn. Ond trïwch chi ddweud hynny wrth y plant bach gafodd eu gorfodi i'w gwylio yn nechrau'r wythdegau!