I Gymru gyda help y "duwiau"
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn ffoadur Eric Ngalle Charles o Gameroon wrthi'n sgrifennu cofiant am ei daith ryfeddol o frad teuluol, defodau siamanaidd, blynyddoedd coll yn Rwsia a chael ei "ail-eni" yng Nghymru.
Drwy hap a damwain y daeth i Gymru ond mewn sgwrs efo BBC Cymru Fyw dywedodd ei fod yn grediniol mai'r "duwiau" ddaeth ag o yma.
Mae Cymru wedi rhoi cyfle iddo fod yn awdur, rhywbeth sydd wedi ei gyfyngu i grŵp dethol o bobl yn unig yng Nghameroon.
Ac mae hynny, dros gyfnod o 17 mlynedd, wedi ei helpu i ddelio gyda'i brofiadau trawmatig fel ffoadur.
Mae newydd ddod nôl o ogledd a chanolbarth Cymru lle bu'n cynnal gweithdai a hyrwyddo ei lyfr am brofiad ceiswyr lloches ym Mhrydain, Asylum.
A bydd yn ôl yn siop Palas Print, Caernarfon, yr haf nesaf i hyrwyddo ei gofiant.
Roedd Caernarfon yn wych meddai a Cricieth yn brydferth; Machynlleth hyd yn oed yn fwy prydferth.
Mae'n ynganu'r enwau Cymraeg yma'n berffaith ond mae'n dweud fod ei Gymraeg yn "work in progress"!
'Metamorffasis'
Mae na debygrwydd rhwng Cymru a Cameroon meddai: "Bob tro dwi'n teithio i Abertawe, dwi'n sgrifennu am y daith oherwydd mae'r golygfeydd, y synau, y bryniau, yn fy atgoffa o adref. Mae'r tirwedd yn debyg iawn iawn."
Mae un o'i gerddi, Between a Mountain and a Sea, yn trafod y profiad yma.
Mae sgrifennu wedi ei helpu'r bardd a'r perfformiwr 37 oed, sy'n byw yng Nghaerdydd ers 1999, i ddod dros y profiadau anodd mae wedi eu cael ar hyd y daith ers i'w deulu ei fradychu mewn ffrae dros ewyllys pan oedd bron â throi'n 18 oed.
Ac mae Eric yn teimlo ei fod yn barod rŵan i fynd nôl i Gameroon am y tro cyntaf ers 17 mlynedd i gwblhau'r cylch: "Mae'r amser yn iawn imi fynd nôl, i roi hyn i gyd i gadw.
"Dwi wedi glanhau fy hun, wedi golchi fy nwylo'n lân a does gen i ddim drwgdeimlad tuag at neb," meddai gan ddweud bod ei "fetamorffasis" yn gyflawn: mae o'r diwedd yn barod i ysgwyd llaw ei fodryb a rhoi cusan ar ei boch.
Stori Eric
Dechreuodd y cyfan pan wnaeth ei fodryb ac aelodau eraill y teulu wadu ei fod yn fab i'w dad mewn llys barn, er mwyn ei rwystro rhag etifeddu ei arian meddai Eric.
Wedi eu hadnabod a byw efo nhw ar hyd ei oes, roedd hyn gyfystyr a "chael ei ladd" ganddyn nhw meddai.
Yn sicr fod ei fywyd mewn perygl roedd ei fam wedi trefnu defod i geisio ei ddiogelu gan siaman a dorrodd ei groen ym mhob cymal o'i gorff gyda machete - hyn i gyd mewn mynwent ynghanol nos. Cafodd Eric a'i fam eu gwawdio a'u gwrthod gan bawb yn y pentref.
Roedd y llanc ifanc yn berwi gan gynddaredd a rhwystredigaeth. Doedd dim i'w wneud ond gadael.
Ond aeth pethau o ddrwg i waeth pan gafodd Eric ei dwyllo gan fasnachwyr pobl wrth geisio am fisa i fynd i astudio yng Ngwlad Belg. Cafodd ei hun yn Rwsia heb basport a dim ond tair doler yn ei boced.
Bu'n byw yno am dros ddwy flynedd yn ceisio meddwl am ffyrdd o fynd adref ond doedd ganddo ddim fisa i adael y wlad.
Yn y diwedd llwyddodd i adael gyda phasbort ffug o Zimbabwe a chanfod ei hun ar awyren BA oedd ar ei ffordd i Heathrow.
Mynd adre i Gameroon oedd y bwriad ond aeth o ddim pellach na Heathrow. O'r holl fysiau oedd yn y maes awyr prysur y diwrnod hwnnw, bws National Express i Gaerdydd oedd wedi ei barcio tu allan i'r fynedfa pan gerddodd Eric allan.
Roedd yn adnabod yr enw am fod bachgen o'i bentref wedi bod yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Felly neidiodd ar y bws i brifddinas Cymru.
Mewn cyd-ddigwyddiad pellach un o'r bobl gyntaf welodd ar y stryd yng Nghaerdydd oedd dyn o Rwanda oedd wedi cael lloches gan lywodraeth Cameroon yn ystod cyflafan llwythau'r Tutsi a'r Hutu yn y wlad honno yn 1984.
"Oherwydd yr arwydd bychan hwnnw o gyfeillgarwch wnaeth fy ngwlad i iddo fo aeth y dyn yma a fi i'w gartref yn Ynys y Barri a rhoi croeso imi."
'Mewn limbo'
Yn fuan ar ôl cyrraedd Cymru cafodd ei wahodd i gynhadledd yn Llandudno oedd yn trafod llenyddiaeth a thrawma.
Drwy'r therapi sgrifennu a ddysgodd yn y gynhadledd mae Eric wedi gallu prosesu'r cymhlethdodau sy'n dod o fod yn ffoadur mewn gwlad ddieithr.
Erbyn heddiw mae'n defnyddio'r un dechneg yn y gweithdai sgrifennu mae'n eu cynnal i helpu mewnfudwyr a ffoaduriaid eraill.
Mae dod i wlad newydd yn gallu rhoi "personoliaeth ddwbl" i rywun meddai - weithiau mae'n teimlo bod ganddo sawl hunaniaeth - gall fod nôl yn ei feddwl yn Rwsia yn siarad Rwsieg, weithiau mae'n canfod ei hun dan goeden fango yn Cameroon ac yna'n sydyn mae yn Machynlleth yn trafod llenyddiaeth.
Mae nifer o fewnfudwyr mewn limbo rhwng dau hunaniaeth meddai yn gorfod ail-fyw eu trawma dro ar ôl tro wrth orfod dweud eu stori eto ac eto wrth wahanol sefydliadau.
Dyna pam mae'n cefnogi lobïwyr sydd eisiau i'r Swyddfa Gartref greu un cronfa ddata fel bod pobl yn gallu dweud ei stori unwaith yn unig.
Roedd o'n un o'r rhai lwcus meddai Eric ond mae wedi cwrdd â cheiswyr lloches sydd wedi eu "bwlio" gan yr awdurdodau ac wedi "diodde'n seicolegol" meddai.
'Adenydd y duwiau'
Cameroon fydd 'adref' iddo am byth ("mae fy llinyn bogel wedi ei gladdu tu ôl i gegin fy mam rhywle yn Cameroon") ond fydd o ddim yn aros yno - yng Nghymru mae ei ddyfodol bellach meddai.
Drwy ei waith ysgrifennu mae wedi cynnal sgyrsiau a gweithdai ysgrifenu drwy Gymru a dod i adnabod nifer o feirdd ac awduron eraill, gan gynnwys Ifor ap Glyn, y Bardd Cenedlaethol, ar ôl rhannu llwyfan efo fo yng Ngŵyl Arall, Caernarfon.
"Dychmygwch fy mod i'n ffonio Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru! Fyddai rhywbeth felly hyn byth wedi digwydd imi yn Cameroon," meddai.
"Mae'n rhyw fath o ddirgelwch dwyfol, adenydd y duwiau ddaeth â fi i Gymru.
"Os ydw i'n dechrau olrhain fy nghamau nôl, dwi'n gweld y byddwn i'n farw, mi fyddwn i wedi cael fy lladd. Ond mae'r ffaith fy mod i wedi dod i Gymru yn golygu fod na ryw fath o awdurdod uwch oedd yn fy arwain i. Dwi'n sicr o hynny."