Clod i hyfforddwraig pêl-fasged cadair olwyn o Wynedd
- Cyhoeddwyd
Mae dynes ag anableddau o Gaernarfon wedi ei henwebu am ddwy wobr am ei gwaith gyda chlwb pêl-fasged cadair olwyn yng ngogledd Cymru.
Mae Deborah Bashford o glwb pêl-fasged cadair olwyn Caernarfon Celts wedi cael ei henwebu am ddwy wobr eleni - y wobr gyntaf gan gymdeithas Sports Coach UK ar 29 Tachwedd yn Llundain, a'r ail wobr gan Gwobrau Chwaraeon BBC Cymru.
Bydd enillydd y wobr honno'n cael ei gyhoeddi fis nesaf.
Mae pêl-fasged cadair olwyn yn gamp sy'n tyfu mewn poblogrwydd, gyda phedwar clwb wedi eu ffurfio yn y gogledd. Mae bwriad i sefydlu tîm ym Mhrifysgol Bangor hefyd.
Yn ôl adroddiad gafodd ei gyhoeddi gan Gymdeithas Pêl-fasged Cadair Olwyn Prydain (BWB), pêl-fasged cadair olwyn yw'r gamp sy'n cynnal y mwyaf o ymarfer corff rheolaidd ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn ym Mhrydain.
Roedd y data, a gasglwyd gan 3,000 o aelodau'r gymdeithas, yn dangos bod y gamp yn mynd o nerth i nerth, gyda dros 1,000 o oriau yn cael ei chwarae ar y cwrt ym Mhrydain pob dydd.
Gyda'r nifer mwyaf o chwaraewyr yn hanes y gamp a 197 o dimau ledled y DU, mae'r BWB yn gweithio i sicrhau bod y momentwm o'r Gemau Paralympaidd yn Llundain 2012 - sydd wedi golygu twf o 211% dros y pedair blynedd diwethaf - yn parhau.
Rhannu'r clôd
Pan gafodd Deborah Bashford ei pharlysu yn 11 oed, rownders oedd yr unig gamp oedd ar gael iddi.
"Mae'r wobr yn bwysig achos bysa fi 'di caru cael y cyfleoedd 'dan ni'n cynnal heddiw," meddai.
Mae hi hefyd yn pwysleisio nad hi yn unig sy'n haeddu'r clod.
"Mae'r wobr i'r hyfforddwyr, y gwirfoddolwyr, a'r rhieni sy'n cefnogi ni. Heb bawb, bysa'r holl waith ddim yn bosib."
Mae merch Deborah, Fran Smith, hefyd wedi ennill gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn gan yr elusen Lord Taverners am ei gwaith gyda'r gamp.
"Roedd o'n deimlad anhygoel i ennill oherwydd tydi gwirfoddolwyr ddim angen cydnabyddiaeth am eu gwaith," meddai.
"Yr unig wobr o 'neud y gwaith ydy gweld pobl yn datblygu, dysgu sgiliau, ac efallai ail-ddechrau bywyd rhywun drwy chwaraeon.
"Cefais wobr ariannol hefyd felly mae tamaid o'r pres yna yn mynd at brynu peli newydd i'r clwb oherwydd mae'r wobr iddyn nhw i gyd 'fyd, nid fi yn unigol."
Camp gynhwysol
Nid yw'r gamp ar gyfer pobl sydd ag anableddau yn unig.
Dengys yr adroddiad bod 21% o'r rhai sy'n chwarae yn gwneud hynny heb anabledd.
Dywedodd Deborah: "Gall dau berson dod trwy'r drws: un yn cerdded a'r llall mewn cadair, ac mae'r ddau yn gallu chwarae - gall rhywun sydd ddim yn anabl gystadlu dros Gymru hyd yn oed."
Mae ystadegau'n dangos bod cynnydd o dros 300% wedi bod mewn chwaraewyr mewn prifysgolion dros y tair blynedd diwethaf.
Mae menywod hefyd yn cyfrannu at boblogrwydd y gamp. Mae cynnydd o 38% wedi bod yng nghynghrair y menywod dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dywed adroddiad Cymdeithas y BWB bod yr ystadegau a chanfyddiadau ynglŷn â dylanwad y gamp ar fywydau dyddiol y chwaraewyr yn arwyddocaol.
Yn ôl yr adroddiad mae pobl sy'n chwarae'r gamp yn teimlo ei fod yn cael effaith bositif ar iechyd meddwl, hyder a chyfle gwaith yr unigolyn, gyda 90% yn nodi eu bod yn teimlo bod ganddyn nhw fwy o ran mewn cymdeithas.
'Newid diwylliant'
Er bod twf yn y gamp mae heriau yn bodoli.
Yn ôl holiaduron yr Undeb Chwaraeon Anabl yn Lloegr (EFDS) mae 33% o rwystrau yn dod o agweddau, 9% o gostau a 9% o drafnidiaeth.
Mae Marcus Politis, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd yng Ngwynedd yn cytuno gyda hynny: "Mae yna feddylfryd fod rhaid bod mewn cadair olwyn i chwarae, a meddylfryd hen fasiwn ydi hyn.
"Mae yna nifer o bobl wedi cael anafiadau sy'n methu cystadlu mewn chwaraeon prif ffrwd, yn ogystal â rhai gydag anableddau eraill sy'n gallu mwynhau'r gamp yma.
"Mae angen newid diwylliant a meddylfryd pobl.
"Mae'n gallu cymryd hyd at ddeng mlynedd i gyrraedd y pwynt o addysgu pobl, nid yw'n digwydd fel swits.
"Er hyn mae cwrs Hyfforddiant Cynhwysol Anabledd y DU yn ategu at hwn gyda elfen mawr ar agweddau, profiadau a chanfyddiadau."
Wrth sôn am ddyfodol y gamp, dywedodd Deborah Bashford ei bod yn gobeithio gweld "datblygiad parhaol".
"Y nod yw rhoi cyfleoedd i'r aelodau," meddai. "S'dim rhaid iddo fod yn bêl-fasged, wnewn ni gefnogi nodau a goliau gwahanol sydd tu allan i'r gamp."
Wrth ddisgrifio dylanwad Deborah Bashford, dywedodd Mr Politis: "Yn sicr mae dylanwad Deborah yn effeithio athletwyr ar bob lefel ac ar draws y sbectrwm o amhariadau o fewn pob amgylchedd."
"Yn fy marn i, mae'r gwaith mae'n 'neud yn ymgorffori pob person anabl sy'n 'neud chwaraeon ac mae'n trawsnewid bywydau trwy hyfforddi chwaraeon yn ei ystyr llawn."