Tân gwyllt: Galw am waharddiad er lles anifeiliaid
- Cyhoeddwyd
Byddai gwaharddiad ar werthu tân gwyllt i'r cyhoedd yn gymorth mawr i bobl ag anifeiliaid anwes, yn ôl un milfeddyg.
Dywedodd Lisa Davies, sydd yn filfeddyg yn Hwlffordd, Sir Benfro, eu bod yn derbyn llawer mwy o alwadau yr adeg hon o'r flwyddyn.
Mae 50,000 o bobl eisoes wedi arwyddo deiseb arlein yn galw am waharddiad ar werthu tân gwyllt, oni bai eu bod nhw ar gyfer digwyddiadau trwyddedig.
"Y stress yw e - bod nhw'n cael dychryn ofnadwy. Ma' fe'n gallu achosi iddyn nhw redeg bant a chael damwain ar yr hewl, ddim yn dod gartre', felly mae pobol yn poeni lot," meddai Lisa Davies.
"Dylse mwy o bobl ddod mewn atom ni, mae rhyw 45% o gŵn yn dangos eu bod nhw'n cal ofn, felly gallai mwy o bobl ddod mewn i gael cyngor, achos mae pethe ni'n gallu gwneud."
I lawer o bobl mae Noson Tân Gwyllt yn un i'w fwynhau, gyda golygfeydd lliwgar y ffrwydradau yn yr awyr a choelcerthi'n cael eu cynnau.
Ond i eraill mae'n "gallu bod yn eithaf diflas", meddai Lisa Davies, gyda pherchnogion yn gorfod delio ag anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm sy'n cael eu dychryn.
Mae rhai yn dewis prynu cyffuriau i helpu'u hanifeiliaid ddelio â'r straen, tra bod modd hefyd prynu teclynnau neu greu man diogel i'r rheiny sydd wedi'u cyffroi'n ormodol.
"Os y'ch chi'n gallu, gwnewch rhyw fath o den. Maen nhw'n hoffi cuddio o dan flanced, dan y gwely, yn y cwpwrdd dillad - just rhywle maen nhw'n gallu cwato mas o'r ffordd," meddai.
Cyngor Lisa Davies i berchnogion anifeiliaid
Os ydych chi'n mynd i arddangosfa tân gwyllt, peidiwch â mynd a'ch anifail anwes gyda chi
Os yn bosib, mae'n werth cael rhywun i aros yn y tŷ gyda'r anifail - mae cael cwmni yn helpu
Cau ffenestri a chau'r llenni, fel nad oes sŵn na flachiau'n dod mewn i'r tŷ
Rhoi'r radio neu'r teledu ymlaen, sŵn cefndir sy'n gyfarwydd i'r anifail
Creu rhyw fath o guddfan iddynt
Ymddwyn yn naturiol, a pharhau i wneud beth fyddech chi fel arfer yn ei wneud, peidio gwneud ffys o'r anifail.
Fe gollodd Sandra a Glyn Morgan-Davies eu ci 12 oed, Bumble, yr wythnos diwethaf wrth gerdded ar y traeth ger Llanelli, pan redodd y ci i ffwrdd ar ôl clywed sŵn tân gwyllt.
Cafodd eu hapêl ar Facebook i geisio dod o hyd iddo ei rannu gannoedd o weithiau. Cafwyd hyd i gorff y ci ar lan y môr ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.
Mae ffrindiau iddynt bellach wedi lansio deiseb arlein yn galw am waharddiad llwyr ar werthu tân gwyllt i'r cyhoedd, sydd bellach wedi denu bron i 50,000 o lofnodion.
Yn ôl Lisa Davies byddai gwaharddiad o'r fath yn gwneud bywydau perchnogion anifeiliaid anwes yn haws.
"Y broblem gydag anifeiliaid yw os chi'n gallu rhagweld a'u cadw nhw mewn, bydde fe'n fine, ond achos eu bod nhw'n mynd bant drwy'r amser, mae pobl yn poeni lot," meddai Lisa Davies.
"Bydden i ddim am strywo hwyl neb, ond bydde fe'n helpu lot."