Cyfle i weld y cynlluniau ar gyfer Y Gyfnewidfa Lo
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ar gyfer adeilad hanesyddol y Gyfnewidfa Lo ym Mae Caerdydd yn cael eu harddangos ddydd Sadwrn.
Bwriad y datblygwyr yw gwario £35m i drawsnewid y safle i westy newydd. Bydd y gwesty yn cynnwys dau gant o ystafelloedd, sba, ystafell gynadleddau a man ar gyfer priodasau.
Fe gafodd y Gyfnewidfa Lo ei hagor yn 1883 fel canolfan i fasnachu glo ond yn ddiweddarach bu'n cael ei defnyddio i gynnal cyngherddau. Fe gaeodd yn 2013.
Ym mis Gorffennaf fe gymeradwyodd pwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd y cynllun gwerth £35m. Mae disgwyl i'r gwaith bara 18 mis.
Yn ôl Lawrence Kenwright o gwmni gwestai Signature Living mae'r cynllun yn "rhoi i'r adeilad ddyfodol gwych sydd wedi'i seilio ar fawredd y gorffennol".