'Gweithio i gau'r clwyfau'
- Cyhoeddwyd
Mae hi wedi bod yn ymgyrch ddadleuol a brwnt ar adegau. Ar 8 Tachwedd bydd Americanwyr yn dewis arlywydd newydd.
Yn eu plith mae dwy sy'n siarad Cymraeg, Shruti Kukarni a Geordan Burress. Maen nhw'n perthyn i leiafrifoedd ethnig yn ystod etholiad lle mae ymraniadau ethnig ac addysgol wedi bod yn amlycach na'r arfer.
Yn ogystal â thrafod eu hymateb i'r ymgyrch bu'r ddwy hefyd yn sôn wrth Cymru Fyw beth wnaeth eu hysgogi i ddysgu Cymraeg:
'Beio lleiafrifoedd'
"Rydw i'n pryderu yn fawr ynglŷn â dyfodol y wlad hon," meddai Shruti Kukarni, gafodd ei magu yn Texas ond sydd bellach yn byw yn nhalaith New Jersey. "Mae wedi bod yn wlad ranedig iawn yn ystod yr etholiad.
"Mae'r rhesymau yn gymhleth iawn ond yn y bôn mae'n ymwneud â'r ffaith fod gan grwpiau gwahanol safbwyntiau, a phrofiadau, gwahanol iawn o fyw yn yr Unol Daleithiau.
"Yn waeth byth mae rhai yn ceisio cymryd mantais o'r gwahaniaethau ethnig er mwyn cryfhau eu cefnogaeth nhw."
Dywedodd bod problemau'r boblogaeth gwyn dosbarth gweithiol yn rhai o daleithiau'r gogledd-ddwyrain yn ymdebygu i'r cymoedd yn ne Cymru ar ôl diwedd y chwyldro diwydiannol.
"Mae chwareli, ffatrïoedd a gweithfeydd dur a oedd yn arfer cyflogi miloedd erbyn hyn yn cyflogi ychydig iawn, os nad ydyn nhw wedi cau yn gyfan gwbl," meddai.
"Mae'r cymunedau rhain yn chwerw, yn flin, ac yn chwilio am rywun i'w feio. Ac mae ein gwleidyddion wedi cynnig targed hawdd, sef beio lleiafrifoedd a mewnfudwyr."
Dywedodd fod yna hefyd dueddiad yn America i ystyried y gall unrhyw un lwyddo mewn bywyd os ydyn nhw'n gweithio'n ddigon caled.
O ganlyniad, nid yw rhai pobl yn gwerthfawrogi'r camwahaniaethu a'r problemau cymdeithasol sy'n atal lleiafrifoedd ethnig rhag llwyddo, ac yn tueddu i gyfleu eu bod yn ddiog yn lle.
"Maen nhw'n ystyried rhaglenni sydd yno i helpu lleiafrifoedd ethnig fel manteision annheg sydd hefyd yn cymryd cyfleoedd oddi ar bobl croenwyn sy'n gweithio yn galed," meddai.
"Mae'r bobl hŷn yn aml yn hiraethu am y gorffennol pan oedd yna nifer fawr o swyddi a chostau byw yn is - ac felly'n cael eu hudo gan addewid Trump i 'Wneud America yn fawr unwaith eto!'
"Ond mae gennym ni bobl dda yn y wlad hon. Mae yna nifer fydd yn gweithio er mwyn cau'r clwyfau sydd wedi eu hagor yn ystod yr etholiad."
Clywed y Gymraeg mewn gêm
Clywodd Shruti Kukarni y Gymraeg am y tro cyntaf wrth chwarae'r gêm gyfrifiadur Runescape.
"Roedd gan y coblynnod yn y gêm honno enwau Cymraeg ac roeddynt yn siarad yr iaith. Mi wnes i greu rhestr termau 'Coblynnod i Saesneg' ar gyfer fy ffrindiau ar ôl ymchwilio i ystyr y geiriau Cymraeg. Do'n i ddim yn ystyried fy hun yn ddysgwr ar y pryd, ond mi wnes i ddysgu dipyn!"
Yn ddiweddarach bu iddi gwrdd â dynes o Gaerdydd ar drên a drafododd ei gwaith wrth geisio hybu'r Gymraeg, a chyda hynny cynyddodd ei diddordeb.
"Rydw i wedi bod â diddordeb mewn ieithoedd a diwylliannau erioed, ac rydw i wedi fy ysbrydoli ers fy mod i'n ifanc gan brydferthwch Cymru a choethder yr iaith.
"Yn anffodus does gen i ddim llawer o gyfle i ymarfer fy Nghymraeg, drwy sgwrsio na chwaith fynediad at gynnwys S4C a'r BBC ar-lein."
Aeth i'r brifysgol yn Efrog Newydd cyn graddio ym mis Mai a dechrau gweithio fel arbenigwr technoleg gwybodaeth llawrydd. Mae ei meistriolaeth o dechnoleg wedi ei gwneud yn haws iddi ddysgu'r iaith.
"Os ydw i eisiau ymarfer mae'n rhaid i mi greu'r cyfleoedd fy hunan. Diolch byth mae yna gymuned gefnogol o ddysgwyr Cymraeg ar-lein sy'n barod i sgwrsio ar Skype neu gyfryngau eraill.
"Dydw i ddim yn credu bod Cymru yn cael cymaint o sylw yn rhyngwladol ac y dylai. Mae yna lawer o ddiddordeb mewn diwylliannau Celtaidd ac efallai y gallai Cymru wneud rhagor i elwa o hynny."
'Tristwch'
Mae Geordan Burress wedi byw yn Ohio drwy ei hoes, talaith sy'n faes y gad yn y frwydr rhwng Clinton a Trump am yr arlywyddiaeth.
Dywedodd bod yr etholiad wedi bod yn un "hollol wallgof" a'i bod yn pryderu'n fawr am ganlyniad y bleidlais ar 8 Tachwedd.
"Bob dydd rydw i yn ei chael hi'n anodd credu bod hyn wir yn digwydd," meddai'r gweinyddwr ym Mhrifysgol Dayton, Ohio.
"Rydw i'n grac iawn ynglŷn â'r hyn y mae Trump wedi ei ddweud am ferched. Mae ef a lot o'i gefnogwyr mor gas, mae'n drist iawn.
"Mae'n peri tristwch mawr i mi am ei fod yn amlwg bod y wlad wedi ei gwahanu dros gymaint o faterion.
"Rwy'n credu bod yna lot o bobl sydd yn teimlo dan bwysau ac yn rhwystredig iawn gyda'r ras. Mae'r hysbysebion ymhobman, lle bynnag wyt ti'n edrych!"
Dywedodd bod yna hollt amlwg i'w weld yno, gyda nifer o bobl croenwyn yn cefnogi Trump, a mwyafrif o bobl o dras leiafrifol yn cefnogi Clinton.
"Mae Trump wedi dweud cymaint o bethau anghwrtais am Fwslemiaid, Meciscaniaid, pobl groenddu, ac yn y blaen."
Y Sin Roc yn siarad
Dywedodd ei bod wedi dechrau dysgu'r Gymraeg pum mlynedd ynghynt oherwydd diddordeb brwd yn y sin roc Gymraeg, yn benodol felly cerddoriaeth Gruff Rhys.
Dechreuodd chwilio i weld beth oedd ystyr y geiriau yng nghaneuon Gruff Rhys, ac fe arweiniodd hynny at gyfnod o ddysgu brawddegau drwy wefan Say Something In Welsh., dolen allanol
"Dw i'n ffan mawr ohono fo a'i gerddoriaeth - ar ôl gwrando ar cwpl o ganeuon Cymraeg o'n i isio trio dysgu dim ond ychydig bach o'r iaith," meddai.
"Ond, ar ôl dechrau dysgu wnes i ddim stopio!"
Stori: Llinos Dafydd
Cafodd Geordan ei holi hefyd gan Garry Owen pan aeth i America i ddilyn yr ymgyrch ar ran S4C a BBC Radio Cymru
Gwrandewch eto: Manylu, Radio Cymru
Gwyliwch eto: Y Ras i'r Tŷ Gwyn, S4C