Ateb y Galw: Emyr Penlan
- Cyhoeddwyd
Emyr Penlan sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Julian Lewis Jones yr wythnos diwethaf.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Chwerthin tra'n rhannu bath gyda fy chwaer Eleri wedi Eisteddfod Genedlaethol 1976 yn Penlan - aka 'Eisteddfod y llwch'.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Kate Bush, Caryl Parry Jones ac Elinor Hopkins o Ddosbarth 4.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Methu arholiadau lefel A yn bwrpasol er mwyn osgoi mynd i'r brifysgol gan fod Jess yn mynd i deithio'r byd a ro'n i am fod yn seren roc fyd-enwog. Yn anffodus roedd rhaid i mi fynd nôl i ail-sefyll.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Wedi claddu fy mam annwyl.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Di-amynedd - yn enwedig mewn car. Rhywfaint o OCD hefyd felly rwy'n hoff iawn o gael pethau mewn trefn - sy'n gallu cythruddo'r bobol o'm cwmpas, er dwi ddim yn siŵr os yw hwn yn beth drwg!
P'run yw dy hoff le yng Nghymru a pham?
Traeth y Mwnt - atgofion melys o fynd yna fel plentyn ac yn dringo'r foel a nofio. Mae teulu Mam i gyd yn byw yn y Ferwig ger Mwnt.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Methu cofio'r nosweithiau gorau, sef unrhyw noswaith yn y 'Starws' (stafell ymarfer Jess) rhwng 1987 a 1997 gyda Brychan, Chris, Owen a lot o ffrindiau arall oedd yn hoffi ymweld). Ond roedd noson yr Oscars 2000 yn LA yn ok - o beth dwi'n ei gofio!
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Dim ond dau sydd angen - Tal a lwcus.
Beth yw dy hoff lyfr?
Hoff iawn o psychological suspense thrillers - mae The kind worth killing gan Peter Swanson yn un da.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Siwmper wlân gydag Emyr ar y ffrynt - mae'r ffasiwn yma'n tarddu o fy ieuenctid pan oedd mam yn meddwl byddai'n syniad da i ni wisgo crysau-t gyda'n henwau arnyn nhw.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
London Has Fallen - os nad y'ch chi wedi gweld hi peidwch â phoeni - rwbish.
Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?
Richard Harrington ar ben bocs - dwi'n 6'5".
Dy hoff albwm?
The Smiths - The Smiths, a Jess - Jess.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a be' fyddai'r dewis?
Prif gwrs - stecen bife de chorizo a photel o Malbec ym Mhatagonia.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?
Pencampwr Ralio'r Byd - Sebastien Ogier er mwyn gweld sut ar y ddaear mae e'n gallu gyrru yn gynt na phawb arall yn y byd.
Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Rhodri Gomer Davies