Deg o ganghennau banc Lloyds i gau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
LloydsFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd 10 o ganghennau banc Lloyds yng Nghymru yn cau erbyn mis Ebrill 2017, yn ôl y cwmni.

Dywedodd y cwmni mai'r rheswm oedd "newid yn y ffordd y mae cwsmeriaid yn dewis bancio gyda ni", gan ychwanegu bod mwy yn defnyddio'r we neu'r ffôn yn hytrach na mynd i ganghennau.

Y safleoedd fydd yn cau yw Aberdaugleddau, Abergwaun, Aberpennar, Abertyleri, Treganna yng Nghaerdydd, Casnewydd, Crughywel, Llanymddyfri, Pontarddulais a Thregaron.

Fe wnaeth Lloyds gyhoeddi ym mis Gorffennaf ei fod yn bwriadu cau 200 o ganghennau ar draws y DU erbyn diwedd 2017.

Bydd y banciau yn cau rhwng mis Mawrth a mis Ebrill y flwyddyn nesaf, gyda gwasanaeth symudol yn cael ei lansio yn wyth o'r ardaloedd.

Ond ni fydd hyn yn digwydd yn Aberpennar a Threganna gan fod y gangen Lloyds agosaf lai na phedair milltir i ffwrdd o'r canghennau sy'n cau.