Symud tair o orsafoedd radio'r gorllewin i Forgannwg

  • Cyhoeddwyd
Radio Pembrokeshire studiosFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Radio Pembrokeshire, Radio Carmarthenshire a Radio Ceredigion ar hyn o bryd yn cael eu darlledu o stiwdios yn Arberth

Mae'r BBC yn deall y bydd tair o orsafoedd radio'r gorllewin yn symud i Fro Morgannwg.

Fe gynhaliodd cwmni Nation Broadcasting ymgynghoriad ym mis Medi am eu cynlluniau i ddarlledu gorsafoedd Radio Pembrokeshire, Radio Camarthernshire a Radio Ceredigion o Saint Hilari ger y Bont-faen.

Ar hyn o bryd mae'r gorsafoedd yn darlledu o Arberth, Sir Benfro.

Fe ddywedodd ffynonellau wrth y BBC y bydd yr adleoliad yn digwydd yn ystod mis Tachwedd a bod rhai swyddi wedi eu colli.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Martin Mumford, na fyddai'n cadarnhau y bydd y gorsafoedd yn symud na nifer y diswyddiadau, gan ddweud bod y manylion hynny yn "gyfrinachol".

Ond cadarnhaodd y byddai dau "gyflwynydd profiadol" yn parhau i gynnig "rhaglenni lleol" ac y byddai cynnwys arbenigol fel rhaglenni amaeth, cerddoriaeth a chwaraeon yn parhau i gael eu cynhyrchu yn Arberth.

Ychwanegodd bod y cwmni "wedi ymrwymo i gadw'i statws fel un o brif gyflogwyr yn y cyfryngau yng ngorllewin Cymru" a'u bod wedi buddsoddi mewn busnes cyfryngau digidol newydd yn Arberth, sy'n cyflogi pum aelod llawn amser.