"Rydw i'n Dalwrnaholic"
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n un o gyfresi mwyaf poblogaidd Radio Cymru ers degawdau. Efallai bod yna Feuryn newydd ond mae'r cystadlu rhwng meistri'r cerddi rhydd a'r cerddi caeth yr un mor chwilfrydig ar Talwrn y Beirdd.
Mae Pigion y Talwrn (Cyhoeddiadau Barddas) sy'n cynnwys haid o gerddi mwyaf cofiadwy y cyfresi cyntaf dan oruchwyliaeth y Prifardd Ceri Wyn Jones, bellach yn y siopau.
Y Ffoaduriaid, tîm o feirdd ifanc, enillodd goron y Talwrn eleni. Mae'n cynnwys Llŷr Gwyn Lewis, Casia Wiliam a chwpl priod, Gwennan Evans a Gruffudd Owen.
Roedd Hel Llus Yn y Glaw, cyfrol farddoniaeth gyntaf Gruffudd, sy'n wreiddiol o Bwllheli, ar restr fer Llyfr y Flwyddyn eleni hefyd. Mi ofynnodd Cymru Fyw iddo beth yw apêl y Talwrn i'r genhedlaeth newydd o feirdd:
Fy enw i ydi Gruffudd Owen, dw i'n ddeg ar hugain oed a dw i'n Dalwrnaholic.
Dwi'n gwrando ar bob pennod yn fyw ar y nos Sul ac yn ail-wrando arni wedyn ar yr iPlayer. Mi fyddaf yn ffonio Mam (talwrnaholic arall) er mwyn rhoi post-mortem ar bob gornest ac yn trafod pwy gafodd gam, pwy gafodd llai o hwyl arni nag arfer a phwy sydd yn llais newydd cyffrous. Wyddoch chi'r ffordd mae hogiau go iawn yn teimlo am bêl-droed? Wel, dyna sut dwi'n teimlo am Y Talwrn.
Dwi wedi bod yn ffan o'r gyfres ers pan oeddwn yn arddegun bach rhyfedd, ond fe waethygodd y clwy' pan ymunais gyda thîm Y Ffoaduriaid nôl yn 2010. Ar y pryd ni oedd y tîm ifancaf yn y gyfres, ac os ydw i'n gwbl onest, un o'r salaf hefyd! Rydw i'n gwingo wrth ail-ddarllen rhai o'm hymdrechion cynnar tila, ond roedd Gerallt ac yn ddiweddarach Ceri Wyn wastad yn barod iawn eu hanogaeth, eu canmoliaeth a'u cyngor.
Trafod tactegau
Ar ôl derbyn ein tasgau rydan ni fel tîm yn cyfarfod i rannu ein hymdrechion ac i drafod tactegau. Mae pob cwpled, limrig a llinell o delyneg yn cael ei dafoli a'i ddadansoddi'n racs gennym, a dim ond pan ydan ni'n gwbl fodlon ar bob ymgais yr ydan ni'n danfon y cynnyrch tua'r Meuryn.
Ar noson y recordio mae'r tîm cyfan yn stwffio i un car, yn tanio'r sat naf ac yn gyrru i bentre' rhywle ym mherfeddion Sir Gaerfyrddin neu Geredigion lle mae'r neuaddau'n oer ond y croeso'n gynnes.
Er bod y tasgau eisoes wedi eu cwblhau rydw i'n tueddu i ddanfon fy nghyd-Ffoaduriaid o'u coeau wrth ddyfynnu fy 'stats' am y tîm arall. 'Stats' megis 'Pwy ydi top scorer y tîm? Sawl deg marc gawson nhw'r gyfres dwytha? Ydyn nhw'n debygol o'n curo ni mewn llinell ar y pryd?'
Ar ôl recordio, er ei bod hi yn aml wedi deg y nos a ninnau filltiroedd o'n gwlâu, mae'n ddefod hanfodol bod rhaid mynd i'r afael â gwledd o frechdanau a chacennau sydd wedi eu darparu ar ein cyfer gan y cymdeithasau caredig sydd yn gwahodd y gyfres i'w cymunedau.
Brechdanau ham
Ar ôl panad a sgwrs letchwith gyda'r Meuryn mae'n amser stwffio'n pocedi yn llawn brechdanau ham a'i throi hi am adra. Wrth yrru drwy'r tywyllwch yn ôl am Gaerdydd rydan ni i gyd yn esgus gwaredu bod Y Talwrn yn waith caled, ond mewn gwirionedd rydan ni wrth ein boddau cael gwneud.
Ar ambell awr ddu, mi fydda i yn cwestiynu os mai fel hyn y dylai beirdd go iawn sgwennu? Onid rhywbeth gonest wedi ei lusgo o grombil y bardd dylai cerdd fod yn hytrach na rhywbeth wedi ei sgwennu at ordor er mwyn diddanu cynulleidfa? Ond wedyn mi rydw i'n atgoffa fy hun gymaint rydw i a nghyd-Ffoaduriaid wedi tyfu drwy fod yn feirdd Talwrn.
Mae pob Talyrnwr gwerth ei halen wedi teimlo'r boen o adrodd cerdd a chlywed eiliad betrus o dawelwch cyn cymeradwyaeth glaear y gynulleidfa. Honno ydi'r eiliad mae rhywun yn gwybod nad ydi'r gerdd wedi ei tharo'n lân, a hynny sydd yn gyrru rhywun i drio'n galetach y tro nesaf. Mae cynulleidfa yn gorfodi rhywun i fireinio'u crefft.
Chwip-din
Eleni, fe lwyddom ni'r Ffoaduriaid i gyrraedd ffeinal y gyfres. Doedden ni ddim wedi disgwyl curo, gan fod ein gwrthwynebwyr, tîm Aberhafren yn dîm hurt o beryglus, ac wedi rhoi sawl chwip-din gofiadwy i ni yn y gorffennol. Ond eleni, rhywsut, rhywfodd, ni ddaeth i'r brig.
Bydd cyfres arall o'r Talwrn yn cychwyn yn y flwyddyn newydd, ac rydw i eisoes yn gwingo edrych ymlaen at dderbyn tasgau'r rownd gyntaf.
Mae hi'n wir fod tipyn llai o dimau yn cymryd rhan nag y bu, ac fel bron pob gweithgaredd Gymraeg mae'r cynulleidfaoedd yn dueddol o fod yn hŷn a'r niferoedd braidd yn denau. Gall Y Talwrn hefyd adlewyrchu problem ehangach barddoniaeth Gymraeg gyfoes, sef fod gormod o'r un math o feirdd yn canu ar yr un math o destunau. Byddai'n wych clywed lleisiau a safbwyntiau newydd ar y gyfres. Wedi dweud hynny, roedd gwrando ar raglenni uchafbwyntiau'r gyfres yn gynharach eleni yn profi bod gennym lawer mwy o le i lawenhau nac i wangalonni.
Wedi'r ffeinal eleni, fe drodd Owain Rhys o dîm Aberhafren atom a dweud gyda gwên: "We were the future, once."
Fy ngobaith pennaf i ydi y cawn ninnau'r Ffoaduriaid ddweud yr un peth ryw ddydd ar ôl colli i dîm o daclau ifanc talentog. Hir oes i'r Talwrn.