Sut ti'n 'neud e, Siôn?

  • Cyhoeddwyd
Dim ryfedd fod Siôn Corn yn edrych yn bryderus. Mae lot gydag e i wneud!
Disgrifiad o’r llun,

Dim ryfedd fod Siôn Corn yn edrych yn bryderus. Mae lot gydag e i wneud!

Mae pawb yn gytûn fod Siôn Corn yn berson prysur iawn Noswyl Nadolig, ond oeddech chi wedi sylweddoli'n union pa mor brysur?

Dyma chwe ffaith i chi sydd yn crynhoi maint tasg enfawr y dyn barfog.

1. Mae'n gwneud y gwaith mewn 32 awr nid 24.

Mae pawb yn gwybod taw 24 awr sydd mewn diwrnod, ond mae Siôn Corn yn graff ofnadwy, ac yn dilyn yr haul o'r dwyrain i'r gorllewin o gwmpas y ddaear ar ei daith.

Mae hyn yn golygu ei fod yn ennill y nifer fwyaf o oriau o dywyllwch ag sy'n bosib ac yn rhannol esbonio sut mae'n llwyddo i gyflawni cymaint. Ond mae'r dasg dal yn enfawr, ac mae'n cael cymorth gwyddonol, arbenigol ar ei daith. Daliwch i ddarllen.

2. FAINT o blant?

Os ydych chi'n ystyried fod 7.4 biliwn o bobl yn byw yn y byd, mae hyn yn golygu fod tua 2.5 biliwn o blant. Ond wrth gwrs, nid yw Siôn Corn yn ymweld â phlant o bob crefydd (gan nad yw pawb yn dathlu'r Nadolig) felly tua 33% o'r plant hyn sydd yn rhaid i Siôn Corn ymweld â nhw. Cofiwch fod hyn yn dal i olygu fod yn rhaid iddo ymweld â thua 825 miliwn o blant mewn un noson.

Disgrifiad,

Ydych chi erioed wedi ystyried beth mae Siôn Corn yn ei wneud am weddill y flwyddyn?

3. Pa mor gyflym?

Arwynebedd y ddaear yw tua 510 miliwn km². Os wnawn ni dderbyn fod rhai plant yn byw yn yr un cartref, mae'n deg i ddamcaniaethu bydd y 825 miliwn o blant, ar gyfartaledd, yn byw mewn 510 miliwn cartref.

Mae rhai'n byw mewn dinasoedd a rhai'n byw milltiroedd o'r tŷ agosaf, felly mi 'nawn ni amcangyfrif fod pob un tŷ yn cymryd un km² o arwynebedd y Ddaear. Mae hyn yn golygu fod Siôn Corn yn teithio, ar gyfartaledd, un cilomedr o un cartref i'r un nesaf.

Dyma lle mae'r stori'n cymhlethu! Mae corachod bach Siôn Corn wedi llwyddo i ddyfeisio teclyn sydd yn arafu amser ac yn plygu damcaniaeth Einstein ac felly'n ehangu'r amser sydd gan Siôn Corn i'w gymharu â phawb o'i gwmpas - hynny yw, ni!

Felly bydd ei sled yn gorfod teithio 510 miliwn cilomedr mewn 32 awr. Sef cyflymder o 15,937,500 cilomedr yr awr, neu 265,625 cilomedr yr eiliad. Mae hyn yn gwneud Siôn Corn yn llawer cyflymach na'r roced aeth â dyn i'r lleuad, oedd ond yn medru teithio ar gyflymder o 2.75 cilomedr yr eiliad.

Ar y cyflymder hwn, mae Siôn Corn yn gorffen dosbarthu anrhegion plant Cymru mewn 1.179 eiliad yn ein hamser ni, neu ddwy flynedd yn amser Siôn Corn. (Ar hyn o bryd, mae'n 1767 ym myd Siôn Corn.)

Pawb yn deall?

4. Sawl calori?

Mae un mins pei yn rhoi 250 k/calori o egni, ac un gwydryn 50ml o sieri'n rhoi 58 k/calori, sy'n gwneud cyfanswm o 308 k/cal pob cartref.

Noswyl Nadolig felly, mae Siôn Corn yn bwyta 157,080,000,000 k/calori. Ond, wrth gwrs, mae'n llosgi llawer o'r egni oherwydd yr holl waith sydd ganddo i'w wneud (gweler uchod).

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen tua 500 miliwn o fins peis i gadw Siôn Corn i fynd drwy'r nos

5. Beth yw pwysau'r anrhegion?

Erbyn heddiw mae nifer o blant yn gofyn am anrhegion eithaf bach, electroneg, felly mae pwysau sled Siôn Corn wedi lleihau'n sylweddol ers y dyddiau pan oedd pawb eisiau beic neu set trenau. (Yn ystod yr 1970au, roedd Siôn Corn bron â methu gorffen un Noswyl Nadolig oherwydd pwysau aruthrol beiciau Chopper y cyfnod!)

O ganlyniad, dyfeisiodd gorachod Siôn Corn beiriant pelydr elecromagnetaidd, sydd yn cywasgu'r anrhegion i 5% o'u maint gwreiddiol. (Mae'n gweithio'n debyg i'r peiriant sydd yn sugno braster pan mae pobl yn cael liposuction.)

Er hyn, mae'r sled dal yn pwyso 23,534,000 cilogram, ond gan ddefnyddio'r pelydr ar y sled ei hun wedyn, mae hyn yn gostwng i 120 tunnell fetrig. (Neu pwysau tair lori fawr).

Disgrifiad o’r llun,

Siôn Corn yn paratoi'r anrhegion cyn iddyn nhw gael eu lleihau gan ei belydryn electromagnetic hud

6. Sawl carw?

Mae pawb yn gwybod taw Dasher, Dancer, Prancer, Vixen, Comet, Cupid, Donner a Blitzen yw prif geirw Siôn Corn ond, wrth gwrs, mae'n rhaid iddyn nhw gael cymorth wrth i'r noson fynd yn ei blaen. Fel ry'n ni wedi clywed, mae'r sled ar gychwyn y noson yn pwyso tua 120 tunnell fetrig ac, wrth gwrs, maen nhw'n tynnu'r sled am 47 mlynedd (amser Siôn Corn - sef 32 awr amser ni).

Felly mae cyfanswm o dair miliwn o geirw'n helpu ar ryw adeg o'r noson, ac ydy, mae pob carw yn y byd yn gwneud darn o'r gwaith, rhywbryd.

Does dim ystadegau ar gael i gadarnhau sawl un sydd â thrwyn coch!

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r ceirw'n cael hoe ar ôl noson galed (ydyn, maen nhw'n rhannu'r baich)