Cyhoeddi enillydd gwobr Philip Jones Griffiths
- Cyhoeddwyd

Mae enillydd cyntaf gwobr ffotograffiaeth er cof am y Cymro Philip Jones Griffiths wedi ei gyhoeddi.
Cafodd Pablo E. Piovanno ei ddewis am ei waith ar effaith defnydd gwenwyn yn y diwydiant bwyd ar fywyd yn Ariannin.
Mae ei luniau yn dangos yr effeithiau ar bobl a'r amgylchedd wedi defnydd chwynladdwr yn y wlad.
Y gred yw bod 13.4 miliwn o bobl wedi eu heffeithio mewn rhyw ffordd.
Cafodd Philip Jones Griffiths ei eni yn Rhuddlan yn 1936 a bu'n gweithio i'r Guardian a'r Observer cyn mynd i Fietnam yn 1966 i dynnu lluniau yn ystod y rhyfel.
Mae rhai yn dweud fod lluniau Griffiths wedi cyflymu'r broses o ddod â'r rhyfel i ben, ac aeth ymlaen i dynnu lluniau ledled y byd, cyn iddo farw o ganser yn 2008.
Y beirniaid oedd Chien Chi Chang, Karen Mullarkey, Hannah Watson, Elizabeth Krist a Katherine Holden.

Mae gwaith Philip Jones Griffiths o Ryfel Fietnam yn fyd enwog

Cafodd lluniau Piovanno am effaith gwenwyn ar yr Ariannin eu dewis gan y beirniaid