Dŵr ymdrochi traethau Cymru 'ymysg y gorau yn Ewrop'
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y traethau yng Nghymru ble mae'r dŵr o safon uchel wedi cynyddu 40% yn y degawd diwethaf, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Mae 97 o draethau sy'n "ardderchog" neu'n "dda", o'i gymharu â 69 yn 2006.
Mae ffigyrau Dyfroedd Ymdrochi yng Nghymru ar gyfer 2016 yn dangos bod y llefydd "ardderchog" yn cynnwys Bae Trecco ym Mhorthcawl, Bae Oxwich ym Mhenrhyn Gŵyr a Bae Colwyn yng Nghonwy.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod traethau Cymru "ymysg y gorau yn Ewrop".
Dim ond un lle yng Nghymru mae safon y dŵr yn "wael" - Cemaes yng ngogledd Ynys Môn.