"Mae'n fater o frys"
- Cyhoeddwyd
Bob blwyddyn mae dros dwy filiwn o bobl yn diodde' o drais yn y cartre'. Mae dwy ran o dair ohonyn nhw yn fenywod.
Ymhlith y menywod ddioddefodd o gamdriniaeth yn y cartref mae Rachel Williams o Gasnewydd. Am dros 15 mlynedd cafodd ei cham-drin a'i churo gan ei phartner. Yn 2011 cafodd ei saethu yn ei choes ganddo a'i churo'n ddidrugaredd.
Erbyn hyn mae wedi dechrau ymgyrch ar Change.org yn pwyso am fwy o ddiogelwch i'r dioddefwyr mewn achosion o drais yn y cartref. Bu'n siarad â BBC Cymru Fyw am ei phrofiadau.
Fe oroesodd Rachel Williams, 44 oed, o Gasnewydd bron i 20 mlynedd o gamdriniaeth gan ei phartner Darren Williams. Ond nid oedd ei mab mor lwcus.
Chwe wythnos ar ôl yr ymosodiad terfynol arni roedd ei mab, fel ei chyn-ŵr, wedi lladd ei hun.
"Dim ond 16 oed oedd Jack," meddai Rachel Williams. "Wnaeth e a'i frawd hŷn weld bron popeth yn digwydd. Fel mam, o'n i'n trio eu gwarchod nhw, ond oedd hi'n amhosib cuddio'r peth.
"Ro'n i'n lwcus, dw i'n fyw i rannu fy mhrofiad. Yn anffodus, aeth popeth yn ormod i fy mab i.
"Pan wnes i ei adael o'r diwedd, doedd hi ddim yn hawdd. Oedd e wastad wedi dweud wrtha i - dim ond un ffordd mas oedd i fi o'r berthynas, a hynny mewn arch bren.
"Sut o'n i'n dianc? Doedd e ddim yn mynd i adael i mi fynd yn hawdd. Doedd e ddim fel delio gyda pherson normal. Roedd risgiau yn mynd i fod, ond do'n i ddim yn rhagweld y byddai'n fy saethu i."
Roedd Rachel Williams eisoes wedi llwyddo i ddianc rhag ei gŵr. Ond y diwrnod cyn iddi gael ei saethu, cafodd amodau ei fechnïaeth eu codi.
Nawr mae hi'n pwyso ar y llywodraeth, drwy'r ddeiseb, i newid pethau.
"Dylai'r rheini sy'n torri amodau gael eu harestio, a chael cosbau llymach ar ôl gwneud. Byddwn i wir yn hoffi dedfryd o garchar awtomatig."
Ymddiried yn neb
Ar y dechrau, meddai, nid oedd ei chyn-ŵr yn ei thrin mewn modd treisgar. Roedd yn gyfeillgar ac yn hael tuag ati.
"Roedd ganddo fe synnwyr digrifwch da, yn gwneud i fi chwerthin drwy'r amser," meddai. "Ond daeth yr ochr dywyll i'r amlwg ymhen amser.
"Mae un digwyddiad yn aros yn fyw yn y cof, pan wnaeth e fy ngham-drin i, pan o'n i saith mis yn feichiog gyda Jack. Gafon ni ffrae, a wnaeth e redeg lan y staer, a gafael ynof i, a fy nghodi i gerfydd fy ngwddwg.
"Wnaeth e ond gadael fynd ar ôl i mi droi'n las, ac fe wnaeth e ddisgyn ar ei bengliniau a gofyn am faddeuant.
"Mae'r ymosodwr yn trio gwneud i chi deimlo trueni drostyn nhw. Maen nhw eisiau i chi feddwl eu bod nhw'n mynd i newid."
Wrth i'r camdriniaeth waethygu, doedd hi ddim yn teimlo ei bod hi'n gallu ymddiried yn neb a doedd hi ddim eisiau creu gofid i'w theulu.
Ond roedd ei ymddygiad yn amlwg i rai o'i ffrindiau, meddai, oherwydd y byddai yn ei bychanu hi o'u blaenau nhw ac yn pigo ar y peth lleiaf.
"Oherwydd ei faint, oedd pobl ag ofn codi'r pwnc gydag e," meddai. "Doedd neb eisiau ei groesi a herio ei ymddygiad. Roedd e'n chwe troedfedd a saith modfedd ac yn 26 stôn. Felly does dim rhyfedd bod neb wedi sefyll lan iddo.
"Roedd e'n dioddef o orbryder ac iselder, ac fe wnaeth ei frawd ladd ei hun pan oedd yn 21 hefyd felly roedd ganddo broblemau ei hun, ac mi oedd yn faich ar ei feddwl."
Dywedodd mai un o'r pethau anoddaf oedd ei fod yn ymddwyn mewn modd amhosib ei ragweld, fel nad oedd hi'n gwybod beth oedd yn dod nesaf.
"Byddai'n poeri ar fy wyneb, tynnu fy ngwallt a thaflu bwyd cynnes ataf i," meddai.
"Ry'ch chi'n tueddu i ddatblygu ffyrdd i ymdopi, ac fel dioddefwr, rydych chi'n trio lleihau'r outbursts, yn trio tawelu'r dyfroedd.
"Y final crunch i fi oedd pan wnaeth e drio fy nhagu, yna fe wnaeth e hollti ei arddyrnau, a hynny o flaen Jack."
Ystadegau erchyll
Mae dwy ddynes yn marw bob wythnos yn nwylo'r ymosodwr yn y Deyrnas Unedig, meddai Rachel Williams, ac mae tua tair dynes bob wythnos yn lladd eu hunain er mwyn dianc.
"Dw i eisiau newid yr ystadegau erchyll yma," meddai. "Mae tua 750,000 o blant yn diodde' gan gam-drin yn y cartref bob blwyddyn. A dyw dynion ddim yn cael eu heithrio chwaith - mae pob rhyw, o bob oed yn gallu dioddef."
"Dylai pob plentyn gael eu haddysgu am berthynas iach, a dylai pawb, o'r heddlu i athrawon ysgol, gael hyfforddiant ar y pwnc.
"Does neb yn haeddu byw mewn ofn, hyd yn oed ar ôl iddyn nhw ddianc rhag y person sydd wedi cam-drin," meddai. "Rhaid i ni stopio rhoi pŵer i'r ymosodwr, rhaid dangos iddyn nhw nad ydyn ni'n ildio."
Symud ymlaen
"Mewn ffordd dydy trais yn y cartref ddim wedi difetha fy mywyd, oherwydd dydw i ddim wedi caniatáu hynny i ddigwydd. Wnes i adael fy nghyn-ŵr am reswm, sef i gael bywyd, a dw i'n ceisio byw bywyd bob dydd gystal ag alla' i.
"Mae fy mywyd yn wych nawr, dw i wedi ail-briodi dyn hyfryd sy'n gefnogol tu hwnt."
Nod y ddeiseb, meddai, ydy gwneud yn siŵr bod pobl yn glynu wrth orchmynion mechnïaeth, eu bod nhw werth rhywbeth - a bod yna ganlyniad hallt os oes rhywun yn eu torri nhw.
"Mae angen gwneud cymaint pan maen dod i drin a thrafod trais yn y cartref. Mae dedfryd llymach yn flaenoriaeth a chael rhaglenni i'r rheini sy'n cyflawni troseddau, i bob un sy'n cam-drin.
"Os ydych chi'n ddioddefwr o drais yn y cartref, mae'n rhaid i chi geisio cael help, boed hynny gan yr heddlu, neu'n wasanaeth arbenigol gan bobl sy'n delio gyda'r math yma o beth.
"Mae'n fater o frys. Rhaid i chi drïo dianc o'r sefyllfa a cheisio byw y bywyd rydych chi eisiau ei fyw, nid cael eich rheoli."