Edrych ymlaen at 'flwyddyn chwedlonol' i dwristiaeth

  • Cyhoeddwyd
DraigFfynhonnell y llun, CADW
Disgrifiad o’r llun,

Y ddraig yng Nghastell Caerffili yn ystod ymgyrch farchnata 2016

Bydd ymgyrch farchnata twristiaeth Llywodraeth Cymru yn dathlu Blwyddyn Chwedlau yn 2017.

Mae Blwyddyn Chwedlau yn dilyn 'Blwyddyn Antur 2016' - oedd yn cynnwys dathliad cenedlaethol dros un penwythnos, sef y 'Penwythnos Mawr Antur', ymgyrch farchnata ryngwladol, a cherflun enfawr o ddraig yng Nghastell Caerffili.

Dod â'r gorffennol yn fyw mewn ffordd na welwyd o'r blaen yw'r bwriad yn 2017 meddai'r llywodraeth.

Yn ystod y Flwyddyn Chwedlau, bydd gweithgareddau creadigol yn cael eu cynnal yng nghestyll Cymru, gan gynnwys twrnamaint canoloesol yng Nghonwy, a dadorchuddio dau ddarn o gelfwaith o 'fri rhyngwladol'.

Bydd Cymru'n cael ei hyrwyddo fel gwlad sy'n llawn chwedlau, ac fe fydd Croeso Cymru yn gweithio gyda VisitBritain i dynnu sylw at ffilm newydd fydd yn cael ei rhyddhau am y Brenin Arthur.

Bydd yr ymgyrch hefyd yn rhoi cydnabyddiaeth i dalentau Cymru, o Roald Dahl i Dylan Thomas i JRR Tolkien, gan gynnig teithiau a chreu llwybrau tywys.

Bydd partneriaid, yn cynnwys Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cynnig rhaglen o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a chasgliadau fydd yn seiliedig ar waith a themâu chwedlonol.

Ym mis Mehefin, bydd Cymru'n croesawu Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA i Gaerdydd ‒ y digwyddiad hwn fydd yr un mwyaf yn y byd ym maes chwaraeon y flwyddyn nesaf.

Ffynhonnell y llun, Hefin Owen
Disgrifiad o’r llun,

Arwyddion 'EPIC' wedi eu gosod ym Mhen-y-Gwryd yn ystod ymgyrch 2016

'Dod â'r gorffennol yn fyw'

Dywedodd Ken Skates, yr Ysgrifennydd dros yr Economi: "Y nod yn 2017 yw sicrhau mai'n diwylliant a'n treftadaeth fydd yn cael y lle canolog ym mrand Cymru.

"Dyw e'n bendant ddim yn fater o edrych yn ôl: hanfod y Flwyddyn Chwedlau yw dod â'r gorffennol yn fyw mewn ffordd na welwyd erioed o'r blaen, gan ddefnyddio dulliau cwbl arloesol.

"Y nod yw creu chwedlau newydd yng Nghymru, a'u dathlu - yn gymeriadau, yn gynhyrchion ac yn ddigwyddiadau modern sy'n cael eu gwneud yng Nghymru, neu sy'n cael eu cyfoethogi drwy ddod yma."

Mae Croeso Cymru wedi cymeradwyo swm o £1.28miliwn eisoes ar gyfer 35 o brosiectau fydd yn helpu rhanddeiliaid yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus i ddatblygu prosiectau a fydd yn cyd-fynd â'r Flwyddyn Chwedlau.

Un o amcanion y cymorth hwnnw yw hyrwyddo rhagor o weithio mewn partneriaeth a bydd cyllid yn y dyfodol yn canolbwyntio ar brosiectau arloesol fydd yn parhau i gefnogi gweithgarwch y blynyddoedd thematig.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y pwyslais ar hyrwyddo twristiaeth anturus yn 2016

Glampio

Un enghraifft yw'r prosiect gwestai glampio dros dro, sy'n cael ei gynnal gan Y Gorau o Gymru mewn partneriaeth â Cambria Tours a Phenseiri George a Tomos.

Dywedodd Llion Pughe, Cyfarwyddwr Y Gorau o Gymru: "Rydym yn llawn cyffro am ein gwesty glampio dros dro, sy'n cael ei alw'n Epic Retreats Cymru.

"Bydd y gwesty hwnnw'n ymweld â thri lleoliad gwefreiddiol yng Nghymru yn ystod 2017.

"Bydd gwesty dros dro Epic Retreats Cymru yn ganlyniad i gystadleuaeth a gafodd ei chynnig drwy dendr i ddylunio uned glampio foethus ar thema Cymru.

"Bydd yr unedau hyn yn hollol unigryw a symudol a byddant yn dod at ei gilydd i greu gwesty glampio Cymreig. Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i aros yno a mwynhau profiadau arbennig, bythgofiadwy.

"Caiff thema leol ei hyrwyddo ym mhob lleoliad.

"Ymhlith y gweithgareddau a gaiff eu cynnig bydd prydau bwyd a fydd yn defnyddio cynnyrch lleol ac yn cael eu paratoi gan gogyddion gorau'r ardal, adloniant gan artistiaid o Gymru, a chyflwyniad i fytholeg yr ardal."

Beirniadaeth

Cafodd elfennau o Flwyddyn Antur 2016 eu beirniadu ym mis Medi, wedi i dimau achub ddweud fod mwy o dwristiaid a dringwyr heb offer priodol angen eu hachub ar Yr Wyddfa.

Cafodd tîm achub mynydd Llanberis eu galw 43 gwaith i fynydd uchaf Cymru ym mis Awst 2016 - y ffigwr misol uchaf erioed.

Roedd y mwyafrif o'r rhain yn bobl oedd wedi dioddef anafiadau i'w coesau neu yn rhy flinedig i barhau.

Fel rhan o'r Flwyddyn Antur, roedd ymgyrch Croeso Cymru wedi annog ymwelwyr i 'Ddarganfod eich Epic'.