Gwahardd gwaith bwrdd Chwaraeon Cymru dros dro

  • Cyhoeddwyd
Chwaraeon CymruFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Pencadlys Chwaraeon Cymru yng Ngerddi Soffia, Caerdydd

Mae gwaith bwrdd rheoli Chwaraeon Cymru wedi ei wahardd dros dro gan Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Rebecca Evans ei bod hi wedi cymryd y cam yn dilyn "materion sydd wedi codi yn y dyddiau diwethaf", a bod ei phenderfyniad yn "weithred niwtral".

Ychwanegodd bod y cadeirydd Dr Paul Thomas a'r is-gadeirydd Adele Baumgardt wedi cytuno y dylai "holl weithredoedd y Bwrdd gael eu gwahardd am y tro".

Mae Adran Chwaraeon BBC Cymru wedi gweld adroddiad mewnol o waith Chwaraeon Cymru sydd yn hynod feirniadol o "weledigaeth wan" y corff.

'Adolygiad brys'

Wrth gyhoeddi'r penderfyniad i wahardd gwaith bwrdd Chwaraeon Cymru dros dro, dywedodd Rebecca Evans:

"Dyw'r penderfyniad yma ddim wedi bod yn un hawdd i'w wneud, ond rydw i'n fodlon ei fod yn gam angenrheidiol wrth i fy swyddogion gynnal adolygiad brys o'r digwyddiadau hyn, sydd eisoes wedi dechrau," meddai Rebecca Evans.

"Allai ddim rhoi mwy o fanylion ar hyn o bryd ond fe fyddaf yn diweddaru Aelodau cyn gynted â fy mod i mewn sefyllfa i wneud hynny. Rydw i'n disgwyl i weithredoedd y bwrdd gael eu gwahardd nes o leiaf diwedd y flwyddyn, yn dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad."

Dywedodd y gweinidog y byddai gwaith dydd-i-ddydd Chwaraeon Cymru yn parhau fel yr arfer yn y cyfamser.

Dywedodd llefarydd ar ran Chwaraeon Cymru nad oedd ganddyn nhw ddim byd pellach i'w ddweud yn dilyn datganiad y gweinidog, ac fe fyddai'r corff yn parhau i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y mater.

Ffynhonnell y llun, Chwaraeon Cymru

Adroddiad beirinadol

Mae Adran Chwaraeon BBC Cymru wedi gweld adroddiad beirniadol sydd yn adolygu gwaith Chwaraeon Cymru ac sydd yn awgrymu y dylai'r corff weld newidiadau sylweddol.

Dywed yr adroddiad fod Chwaraeon Cymru, sydd yn hybu chwaraeon ar lawr gwlad, yn gorff sydd gyda "diffyg tryloywder" ac mae peryg y gallai gael ei rannu'n ddarnau os nad yw'n cytuno i newidiadau.

Arweinydd yr adolygiad sydd yn sail i'r adroddiad ydi Dr Paul Thomas, gafodd ei benodi yn gadeirydd Chwaraeon Cymru ym mis Mawrth.

Mae'r adroddiad hefyd yn cyhuddo Chwaraeon Cymru o fod yn "ddarfodedig yn ei feddylfryd" a'i fod yn gorff sydd yn dangos "gweledigaeth wan".

Cafodd y casgliadau yn yr adroddiad sydd yn 26 o dudalennau eu gwneud gan gwmni annibynnol.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Paul Thomas, cadeirydd Chwaraeon Cymru, oedd yn gyfrifol am yr adolygiad i waith y corff

Yn ôl yr adolygiad, mae Chwaraeon Cymru "mewn perygl o sefyll yn llonydd", ac mae'r corff yn dioddef o "amharodrwydd" rheolwyr i wrando ac nid yw'n gwneud digon i gysylltu gyda phobl tu allan i'w bencadlys yng Nghaerdydd.

Dywed yr adolygiad fod angen i'r corff fynd i'r afael â materion yn ymwneud â chyfathrebu, arweinyddiaeth, strategaeth, strwythur a phrosesau, perthnasau, llywodraethiant, ariannu a chydweithio.

Mae disgwyl y bydd yr awgrymiadau'n cael eu cyflwyno mewn cynllun i Lywodraeth Cymru gyda'r bwriad o'u gweithredu o fisoedd Ionawr ac Ebrill 2017.

"Nid dewis ond angenrhaid yw newid sylfaenol," meddai Paul Thomas yn yr adolygiad.

"Mae'r dewis i Chwaraeon Cymru'n eglur iawn. Ymateb i'r sialensiau sy'n wynebu Cymru a'i lywodraeth a gan gymunedau ac unigolion mewn ffordd sydd yn cydnabod barn rhanddeiliaid ynghŷd ag amcanion penodol cenedlaethol y mae'r llywodraeth yn benderfynol o'i dilyn, ac y mae ganddo fandad clir i wneud hynny.

"Neu wynebu cael ei dorri i gorff elît a chorff sy'n canolbwyntio ar iechyd ar gyfer hybu gweithgareddau corfforol a lles."