Dalfeydd Heddlu'r De 'wedi gwella' yn ôl adroddiad
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi gwella ei wasanaethau dalfeydd, ond mae pryderon yn parhau am sut y mae'n monitro'r defnydd o rym corfforol, yn ôl adroddiad.
Daw'r adroddiad wedi i archwiliadau o gelloedd yr heddlu gael eu cynnal yn nalfeydd Bae Caerdydd, Abertawe, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr ym mis Ebrill.
Roedd Arolygiaeth Carchardai ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn edrych ar driniaeth, amodau, hawliau a gofal iechyd pob dalfa.
Mewn rhai achosion "annerbyniol" cafodd ddalfeydd eu defnyddio fel lle diogel ar gyfer plentyn.
Dywedodd yr adroddiad bod "arweinyddiaeth a rheolaeth" dalfeydd y llu yn gryf, a bod "gweledigaeth glir" am yr hyn oedd ei angen.
Ychwanegodd bod "gwelliannau sylweddol" wedi bod yn y ffordd mae perfformiad yn cael ei reoli a bod nifer yr oedolion bregus sy'n cael eu cadw yn y ddalfa o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn gostwng.
Pryderon
Er hynny, ychwanegodd bod yr "effaith cadarnhaol yn llai clir wrth ystyried plant" a bod hyn yn parhau yn bryder.
"Mewn nifer fechan o achosion, roedd dalfeydd heddlu wedi cael ei ddefnyddio fel lle diogel ar gyfer plentyn, oedd yn annerbyniol," meddai'r adroddiad.
Fe wnaeth arolygwyr hefyd fynegi pryder nad oedd y defnydd o rym wedi cael ei fonitro nes yn ddiweddar iawn.
Ond dywedodd yr adroddiad bod yr archwiliad wedi bod yn un "cadarnhaol" a bod y gwasanaethau wedi gwella yn gyffredinol.
Dywedodd Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, fod plant wedi bod yn cael eu cadw yn ddiangen yn nalfeydd yr heddlu "lle mae prinder llefydd addas, ac rydym yn gweithio yn galed gyda'r awdurdodau lleol i ddatrys y broblem".
"Rydym wedi gweld gwelliannau ond mae angen gwneud mwy yn enwedig - fel mewn achosion iechyd meddwl - lle nad yw hyn yn broblem i'r heddlu ond yn hytrach yn broblem lle does yr unman arall i fynd."
Ychwanegodd fod yr heddlu yn gweithio'n galed gydag asiantaethau eraill er mwyn atal pobl ifanc bregus rhag mynd i'r ddalfa heblaw ar adegau eithriadol.
Dywedodd dirprwy brif gwnstabl Heddlu'r De, Jeremy Vaughan, fod yr heddlu yn delio gyda 40,000 o achosion o bobl yn cael eu cadw yn y ddalfa bob blwyddyn.
"Mae ein staff yn aml yn gweithio o dan amgylchiadau anodd iawn.
"Ers yr arolwg yma ym mis Ebrill rydym wedi cyflwyno nifer o newidiadau o ran ein gwasanaethau sy'n delio gyda phobl yn y ddalfa, gan fynd i'r afael â nifer o'r pryderon gafodd eu mynegi gan yr arolygwyr yn eu hadroddiad."