Cynllun i wahardd alcohol ar ôl problemau ym Mhilgwenlli

  • Cyhoeddwyd
Caniau alcohol gwag ym Mhilgwenlli

Fe allai yfed alcohol ar y stryd, a phobl yn ymgasglu mewn criwiau gael eu gwahardd mewn ardal yng Nghasnewydd sydd wedi dioddef achosion o anrhefn cyhoeddus yn ddiweddar.

Mae'r cyngor a'r heddlu eisiau rheoli ymddygiad gwrth-gymdeithasol ym Mhilgwenlli, lle mae pobl ifanc yn ddiweddar wedi targedu'r heddlu gyda thân gwyllt.

Fe fyddai unrhyw un sy'n cael ei dal yn torri gorchymyn gwarchod mannau cyhoeddus (PSPO) yn wynebu dirwy neu gael ei erlyn.

Ond mae rhai trigolion a siopwyr yn amau a fyddai cynllun o'r fath yn gweithio.

Codi Ofn

Mae'r heddlu ym Mhilgwenlli yn dweud fod yna broblemau wedi bod yn yr ardal ers tro yn gysylltiedig â chyflenwi a defnyddio cyffuriau, ac yfed alcohol yn hen faes parcio siop Kwik Save yno.

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o'r problemau cymdeithasol ar safle maes parcio hen siop Kwik Save

Yn ol yr Arolygydd Richie Blakemore, mae grwpiau o bobl ifanc sy'n ymgasglu yno yn codi ofn ar bobl leol, ac mae swyddogion wedi bod yn gweithio gyda'r cyngor dros y flwyddyn ddiwethaf i lunio Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus i geisio lleihau'r problemau.

Dywedodd yr Arolygydd Blakemore: "Rydyn ni'n gobeithio newid ymddygiad, a newid agweddau'r grŵp.

"Mae nhw'n byw yma, felly mae angen iddyn nhw ddeall nad ydi o'n ffordd dderbyniol o ymddwyn ac fe allen nhw wynebu camau o dan y gorchymyn, os byddwn ni'n llwyddo i'w gyflwyno," meddai.

Mae trigolion a pherchnogion siopau wedi dweud y bydden nhw o blaid y gwaharddiad, ond yn poeni ynglŷn â sut y byddai'n cael ei weithredu. Fe ddywedodd John Price, 63, y byddai'n beth da atal gangiau rhag ymgasglu yn yr ardal gan eu bod yn codi ofn ar bobl. Ond tydi Ann Barton sy'n cadw siop flodau ddim yn credu y bydd swyddogion yn gallu defnyddio'r gorchymyn yn effeithiol.

Newidiadau Cadarnhaol

Yn ol Cyngor Casnewydd, mae gorchymyn tebyg a gafodd ei gyflwyno y llynedd wedi bod yn llwyddiannus. Roedd y gorchymyn hwnnw yn gwahardd alcohol ac y mae wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn yr alcohol y mae swyddogion yn gorfod ei gymryd oddi ar bobl ar y strydoedd yno.

Mae adroddiad yn dweud: "Tra bod yna fwy o waith i'w wneud i sicrhau fod pobl yn cadw at y cyfyngiadau, mae cyflwyno'r PSPO yng nghanol y ddinas wedi arwain at newidiadau cadarnhaol, gyda nifer o'r problemau wnaeth ysgogi'r gorchymyn yn wreiddiol yn lleihau".