Oes Trump
- Cyhoeddwyd
Roedd o'n ganlyniad ysgwydodd y byd. Wrth i Donald Trump baratoi i olynu Barack Obama fel Arlywydd America, Huw Edwards, cyflwynydd BBC News at Ten a The Wales Report, sy'n pwyso a mesur y goblygiadau i ni fel Cymry.
Dyma ni, felly.
Diwedd 2016 a dechrau Oes Trump.
Ac mae Oes Trump ar waith yng Nghymru, hefyd.
Oes y gwadu ffeithiau, oes yr ymagweddu wynebgaled, oes y colli tymer, oes y goddef anffafriaeth, ac oes yr ymosod maleisus ar unrhywun sy'n beiddio anghytuno neu wrthwynebu.
A pheidiwch, da chi, â dod i'r casgliad mai eneidiau hoff cytun Y Donald yw'r unig rhai sydd dan ystyriaeth gennym. Dim o gwbl. Mae rhai o'r sylwebyddion a'r gwleidyddion sy'n honni ffieiddio gwerthoedd Oes Trump yr un mor euog.
Buddugoliaeth dectonig
Treuliais beth amser yn teithio yn Pennsylvania yn yr wythnos cyn buddugoliaeth dectonig Donald Trump. Nid oedd y dalaith honno wedi dewis Gweriniaethwr fel arlywydd ers degawdau. Ond dyna a wnaed. Fe deithiais i Johnstown, Cambria County (mae nifer yno o dras Cymreig), hen ddinas yr haearn a'r dur, lle collwyd degau o filoedd o swyddi ers yr 1980au.
Mae'n debyg iawn i rai o'n cymunedau ôl-ddiwydiannol ni yng Nghymru, a'r bobl yr un mor gyfeillgar a chroesawgar. Y dasg fwyaf anodd oedd canfod cefnogwyr i Hillary Clinton. Dim ond posteri Trump a welais ym mhob cwr.
Barnai grŵp o fyfyrwyr Prifysgol Pittsburgh-Johnstown (tair merch, gyda llaw) bod angen newid yn anad dim arall, er eu bod yn casáu iaith ac agweddau Trump.
Mynnai bechgyn hoci iâ y Tomahawks bod Trump yn ŵr busnes llwyddiannus a allai gynnig gobaith ac adfer economi eu hardal. Roedden nhw'n gweld Clinton fel ymgeisydd y blaid a anghofiodd ei chefnogwyr traddodiadol yn nhaleithiau diwydiannol y gogledd-ddwyrain.
Trwch blewyn
Bu buddugoliaethau Trump o drwch blewyn yn Pennsylvania (mwyafrif o 68,000 allan o 6 miliwn o bleidleisiau), Michigan (mwyafrif o 11,000 allan o 5 miliwn) a Wisconsin (mwyafrif o 20,000 allan o 3 miliwn) yn fodd iddo gipio'r Tŷ Gwyn. A dyna'r gwir plaen, sef bod mwyafrifoedd bychain yn yr hen daleithiau diwydiannol wedi danfon Trump i DC, ar ôl yr holl wag ddyfalu.
Ond cyn i chi ddamnio'r sylwebyddion yn eu crynswth, cofiwch bod Clinton wedi ennill y bleidlais genedlaethol yn hawdd (mwyafrif enfawr o 2 filiwn) gan brofi unwaith eto bod system y Coleg Etholiadol yn gwobrwyo'r sawl sy'n crynhoi pleidleisiau yn yr union daleithiau sydd angen er mwyn ennill y wobr fawr. Gambl syfrdanol fu ymgyrch Trump, yn ôl ei bobl ef ei hun, ond fe dalodd ar y naw ac ymhen deufis bydd yntau yn cipio awenau'r swydd rymusaf yn y byd.
Dylanwad y cyfryngau cymdeithasol
Ar drothwy 2017, felly, mae'n bosib cyffelybu byd gwleidyddol America a Phrydain ar lawer cyfrif, nid yn unig ar sail gwep fythol-bresennol Nigel Farage.
Un o'r elfennau pwysicaf a mwyaf bygythiol yw'r newid a welwyd yng nghymeriad a safon ein trafodaeth gyhoeddus. Gellir nodi tri ffactor yma: effaith y cyfryngau cymdeithasol; dylanwad y wasg (tabloidau gan mwyaf); ac ymddygiad gwleidyddion a sylwebyddion.
Bu cynnydd syfrdanol yn nylanwad Facebook fel ffynhonnell newyddion, yn enwedig ymhlith y to iau. Yn ôl yr astudiaethau diweddaraf, mae tua 28% o bobl Prydain yn enwi Facebook fel eu prif ffynhonnell newyddion. Peth da a drwg yw hyn.
Mae 'na fodd i ni ennyn diddordeb ymhlith cenhedlaeth sy'n dueddol o ymwrthod â'r cyfryngau canolog (mainstream media) ond y broblem yw bod Facebook hefyd yn domen o sbwriel a sothach. Mae 'na filoedd o 'straeon newyddion' arno sy'n gelwydd pur a luniwyd er mwyn camarwain a chyflyru. Mae effaith hyn mewn ymgyrch etholiadol yn wirioneddol andwyol. Gweler elfennau o ymgyrch Trump, eto.
Prif anfantais Facebook, Twitter a'r gweddill yw'r awydd cynyddol i fynegi barn a chyfnewid syniadau gyda phobl sy'n dueddol o gytuno â ni, ar draul pawb arall. Am y tro cyntaf erioed, rhoddwyd cyfle i filiynau i leisio barn yn gyhoeddus. Gall hynny fod yn beth iach, ond yn anffodus gall fod yn gwbl afiach hefyd.
Cywirdeb?
Datgelwyd yn ddi-lol bod cynifer o bobl yn coleddu syniadau eithafol (hiliol, treisiol, rhywiaethol) ac fe'u cymhellwyd i ddefnyddio'u grym a'u dylanwad newydd hyd eithaf eu gallu. Gwelwyd y patrwm hyll yma yn etholiad Trump, yn nadl Brexit, ac yn refferendwm yr Alban. Ac fe'i gwelir o hyd.
Yr hoff dactegau - tactegau a berffeithiwyd gan nifer wleidyddion a sylwebyddion amlwg - yw wfftio ffeithiau diogel a phrofedig, pardduo pawb sy'n cynnig dadl wahanol, ac ymosod yn ddidrugaredd ar gywirdeb unrhyw newyddiadurwr sy'n holi cwestiwn lletchwith. Dyma ni mewn sefyllfa beryglus iawn.
Gogoniant y llwyfannau digidol - i'r eithafwyr - yw y gallant gwtsio yn eu siambr atsain gan osgoi'r sawl sy'n herio a chynnig barn arall. Mae hyn yn arwain at anoddefgarwch angheuol. Gwae i'r sawl sy'n tresmasu ar eu siambr sanctaidd. Y canlyniad yw'r ymateb lledwyllt a welir yn ddyddiol pan fydd rhywun yn mentro anghytuno.
Ni chaiff neb ei esgusodi. Fe gafodd barnwyr yr Uchel Lys flas o'r cieidd-dra yn ddiweddar ar ôl iddyn nhw fentro dweud bod angen parchu ein system o ddemocratiaeth seneddol. Ac fe gaiff barnwyr y Goruchaf Lys flas hyd yn oed yn gryfach os na chawn ddyfarniad sy'n plesio perchnogion ein papurau newydd poblogaidd.
Distewi beirniadaeth
Cafodd Major a Blair eu llarpio am fentro dweud y gallai'r etholwyr fynnu'r hawl i ddatgan barn ar y cytundeb Brexit terfynol. Cafodd y darlledwyr (a'r BBC yn bennaf, yn naturiol) eu fflangellu am feiddio cynnig mwy nag un persbectif ar y stori.
Nid oes modd i neb osgoi'r canlyniad bod dylanwad y wasg Lundeinig yn gyfangwbl ddinistriol o ran ceisio cynnal trafodaeth gall, synhwyrol a chytbwys ar broses Brexit. Mae perchnogion y papurau hyn (a'u golygyddion) gan mwyaf yn casáu'r Undeb Ewropeaidd a bu eu papurau yn ymgyrchu yn ei herbyn am ddegawdau. Nid yw rhybuddion am ddifrod economiadd neu niwed gwleidyddol yn eu poeni na'u plagio o gwbl, a'u hunig nod, fe ymddengys, yw distewi beirniadaeth.
Mae'r darlledwyr dan bwysau cynyddol yn yr hinsawdd annifyr yma, ac fe synhwyrodd ambell wleidydd bod cyfle ganddynt i ymosod. Ta waeth. Mae'n dyletswydd ni yn gyfangwbl glir, sef ceisio cyflwyno gwybodaeth yn deg a dadansoddi yn gytbwys.
Ac ar adeg pan mae'r wasg a'r cyfryngau cymdeithasol yn fwyfwy fflamllyd, mae angen ychydig o synnwyr cyffredin er mwyn cynnal safon ein trafodaeth gyhoeddus.