Ysgol Dolgellau: Croesawu penderfyniad i newid cynllun

  • Cyhoeddwyd
Ysgol y Gader
Disgrifiad o’r llun,

Bydd safle uwchradd yr ysgol newydd ar safle presennol Ysgol y Gader

Mae rhieni yn ardal Dolgellau wedi croesawu penderfyniad i beidio symud plant blwyddyn 5 a 6 yr ardal i safle ysgol uwchradd y dre.

Yn wreiddiol fe awgrymwyd y dylid symud y plant i safle ysgol uwchradd newydd Bro Idris, fydd yn agor yn yr hydref.

Nos Lun fe benderfynodd corff llywodraethol cysgodol yr ysgol newydd na fyddai hyn yn digwydd ym mis Medi.

Bydd rhagor o ymchwil yn cael ei wneud cyn gwneud penderfyniad pellach.

Roedd llawer o rieni yn yr ardal wedi gwrthwynebu'r syniad.

'Hunllefus'

Mewn ymateb i'r penderfyniad dywedodd un o'r rhieni fu'n ymgyrchu yn erbyn y cynllun wrth raglen y Post Cyntaf ei bod yn falch iawn bod y corff llywodraethol wedi gwrando ar eu pryderon.

Yn ôl Sioned Rees mae'n gobeithio bydd yr ysgol a'r awdurdod addysg yn ymgynghori yn llawn a'r rhieni.

Dywedodd ei bod bod yn drist nad oedd yr awdurdodau wedi ymgynghori yn llawn a'r rhieni hyd yma: "Y pryder mwyaf oedd gennym oedd diogelwch y plant bach mewn ysgol uwchradd."

"Roedd y posibilrwydd o amddifadu plant o'u plentyndod yn hunllefus i ni fel rhieni."

Ysgol newydd Bro Idris

Fis Medi nesa' bydd ysgol newydd Bro Idris ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 3-16 yn agor ei drysau.

Bydd yr ysgol ar chwe safle gwahanol, un uwchradd a phump cynradd. Ar dir Ysgol y Gader fydd y safle uwchradd, gyda safleoedd cynradd yn Llanelltyd, Y Friog, Dolgellau, Dinas Mawddwy a Rhydymain.

Bydd ysgolion y Brithdir a Ganllwyd yn cau fel rhan o'r adrefnu, yn ogystal ag Ysgol Uwchradd y Gader.

Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud y byddai rhoi plant rhwng naw ac 13 oed gyda'i gilydd ar y safle uwchradd yn "sicrhau dilyniant effeithiol o addysg cynradd i'r uwchradd", ac y byddai cydweithio effeithiol rhwng athrawon.