'Angen mwy o fyfyrwyr' cyn sicrhau cyllid Pantycelyn
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud y bydd angen iddyn nhw ddenu mwy o fyfyrwyr cyn y gallan nhw gael arian gan gorff cyllido i adnewyddu neuadd Gymraeg Pantycelyn.
Mae adroddiad i gyngor y brifysgol yn nodi bod "twf cyson angenrheidiol yn niferoedd y myfyrwyr" yn amod gan y Cyngor Cyllido Addysg Uwch (HEFCW) cyn y byddan nhw'n sichrau cyllid.
Ymysg opsiynau eraill y mae'r brifysgol yn eu hystyried am nawdd mae arian gan unigolion neu ymddiriedolaethau.
Mae'r brifysgol wedi dweud fodd bynnag nad ydyn nhw wedi gwneud unrhyw gais am fenthyciad i HEFCW eto.
Fe fu llawer o brotestio yn erbyn y cynlluniau i gau'r neuadd Gymraeg nôl ym Mehefin 2015, gyda myfyrwyr yn meddiannu'r adeilad a chynnal protestiadau.
Yn ddiweddarach, cafodd bwrdd ei sefydlu i ddiogelu ei ddyfodol, gydag amcangyfrif bod angen dros £10m i gwblhau'r gwelliannau a chreu 200 o stafelloedd en-suite.
Bwriad y brifysgol yw ailagor y neuadd ym mis Medi 2019, ond mae rhybudd wedi bod ar hyd yr amser ynglŷn â'r angen i sicrhau'r arian angenrheidiol cyn ymrwymo'n bendant.
Mae adroddiad i gyngor y brifysgol yn cadarnhau na fydd y cyngor cyllido yn fodlon cytuno "i gaffael cyllid o'r fath hyd nes y bydd y Brifysgol wedi sicrhau'r twf cyson angenrheidiol yn niferoedd y myfyrwyr".
Ychwanegodd yr adroddiad, gafodd ei gyflwyno ddiwedd mis Mehefin, y gallai canlyniad Brexit hefyd fygwth cynaladwyedd y brifysgol, yn ogystal â sefydliadau eraill yn y sector, yn y dyfodol.
Mae'r adroddiad yn dweud ymhellach, er bod yna ddadl gref dros adnewyddu Pantycelyn er mwyn darparu llety drwy'r iaith Gymraeg, bod rhaid ystyried y cynllun yng nghyd-destun prosiectau eraill.
'Un o'r blaenoriaethau'
Nid yw Prifysgol Aberystwyth wedi datgelu'r ffigyrau diweddaraf ar nifer y myfyrwyr sydd wedi'u recriwtio, ond dywedodd llefarydd: "Mae'r brifysgol wedi bod yn glir bod Pantycelyn yn un o'i blaenoriaethau gwariant.
"Mae tîm o benseiri sydd yn siarad Cymraeg wedi eu penodi i weithio ar gynlluniau manwl ar gyfer uwchraddio'r adeilad.
"Yn y cyfamser, mae gwaith yn parhau i sicrhau'r cyllid angenrheidiol, yn unol ag amserlen y prosiect i ailagor yr adeilad ym mis Medi 2019.
"Mae disgwyl i fenthyciadau fod yn rhan o'r cyllid ar gyfer prif brosiectau cyfalaf y Brifysgol. Fel gyda phob prifysgol arall yng Nghymru, bydd angen cytundeb gyda HEFCW ar gyfer unrhyw gyllid benthyciad ar y raddfa hon.
"Dyw'r Brifysgol ddim eto wedi gofyn am gytundeb gyda HEFCW ar gyfer unrhyw fenthyciad."