Buddsoddi £30m mewn tai fforddiadwy
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n buddsoddi £30 miliwn yn ychwanegol eleni er mwyn darparu 20,000 o dai fforddiadwy.
Daeth y cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant, wrth bwysleisio'r nod o godi'r 20,000 yn ystod cyfnod y llywodraeth hon.
Mae e hefyd yn arwyddo cytundeb gyda Chartrefi Cymunedol Cymru (CCC) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn cyrraedd y nod yna.
Yn ystod oes y llywodraeth ddiwethaf, bu partneriaeth debyg rhwng Llywodraeth Cymru a CCC yn gyfrifol am godi 10,000 o dai fforddiadwy dros gyfnod y llywodraeth.
'Uchelgais'
Dywedodd Mr Sargeant: "Rwyf am gryfhau'r partneriaethau er mwyn inni allu cyflawni'r targed newydd, gan y bydd o fudd mawr i'n gwaith ym maes cyflenwi tai dros y bum mlynedd nesaf.
"Bwriadwn fuddsoddi mwy na £1.5 biliwn mewn cartrefi fforddiadwy yn ystod cyfnod y llywodraeth hon.
"Bydd cynlluniau profedig a llwyddiannus, megis y Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol a'r Grant Cyllid Tai, yn rhan bwysig iawn o'r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy a helpu pobl sy'n agored i niwed gael mynediad i dai, a chadw eu tai.
"Cyllideb wreiddiol y Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol ar gyfer eleni oedd £68 miliwn. Bydd y £30 miliwn ychwanegol yr wyf yn cyhoeddi heddiw yn cynyddu cyllideb y rhaglen i £100 miliwn bron.
"Mae buddion pwysig ynghlwm wrth adeiladu cartrefi o safon: buddion o ran iechyd ac addysg, buddion economaidd a buddion i gymunedau. Mae darparu cartrefi newydd o safon i Gymru wrth galon fy uchelgais ar gyfer tymor newydd y Cynulliad."
'Blaenoriaeth'
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi dweud bod y cytundeb newydd yn ffrwyth trafodaethau rhwng y Prif Weinidog Carwyn Jones a'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wrth lunio cabinet Llywodraeth Cymru.
Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar dai, Peter Black AC: "Ni yw'r blaid sydd yn gyson wedi rhoi tai ar yr agenda wleidyddol.
"Mae cyhoeddiad heddiw yn newyddion da i'r bobl ar draws Cymru sy'n teimlo bod prisiau tai wedi mynd y tu hwnt i'w gafael.
"Yn yr etholiad diwethaf, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru oedd y blaid a ddywedodd bod codi 20,000 o dai fforddiadwy yn flaenoriaeth.
"Rydym yn credu y dylai pob person fedru darparu amgylchedd diogel i'w teulu, a chodi 20,000 o dai newydd yw'r union uchelgais sydd angen ar y llywodraeth i greu cymdeithas decach i bawb."