Teyrnged i fam feichiog wedi gwrthdrawiad ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i fam feichiog gafodd ei lladd mewn gwrthdrawiad ar yr M4 fore dydd Mawrth.
Roedd Rebecca Evans, 27 oed, yn teithio gyda'i gwr Alex, a'i mab dyflwydd oed, Cian, pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng tri char ger Margam.
Bu farw'r baban yn ei groth - merch fach oedd i fod i gael ei geni cyn y Nadolig.
Cafodd Cian ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Roedd Rebecca ac Alex ar eu ffordd i'w gwaith gyda Shelter Cymru pan ddigwyddodd y ddamwain.
Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd Pennaeth Ymgyrchoedd Shelter Cymru, Michelle Wales: "Mae hon yn amlwg yn drychineb nad oedden ni'n ei disgwyl.
"Roedd hi'n berson mor, mor hyfryd, ac rydym i gyd yn drist. Mae staff ac ymddiriedolwyr mewn sioc.
"Roedd Rebecca wedi bod yn gweithio i Shelter Cymru ers pum mlynedd yn datblygu gwasanaeth addysg a gwybodaeth i'r ifanc, sydd wedi bod o gymorth i filoedd o bobl ifanc i ddeall y camau ymarferol sydd angen iddyn nhw'u cymryd er mwyn byw'n annibynnol.
"Heb ei hangerdd a'i hymrwymiad hi i bobl ifanc, byddai llawer wedi wynebu digartrefedd a dyfodol ansicr."
Ymchwiliad yn parhau
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru eu bod yn parhau â'u hymchwiliad i'r gwrthdrawiad ar yr M4.
"Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng BMW, Peugeot ac Audi ar y lôn orllewinol tua 08:20.
"Cafodd merch fach Mrs Evans hefyd ei lladd yn y gwrthdrawiad. Aed a bachgen bach i'r ysbyty lle mae'n parhau i gael triniaeth.
"Mae dyn 50 oed a gafodd ei arestio ar y safle wedi ei ryddhau ar fechniaeth wrth i'r ymholiadau barhau.
"Mae heddlu'r de yn gofyn i unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101 neu yn anhysbys drwy Taclo'r Tacle ar 0800 555111, gan ddyfynu'r cyfeirnod 1600461041."