Ymgyrchwyr yn pryderu am safle ysgol yn Sir Gaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
safle posib

Mae ymgyrchwyr yn Llanelli wedi galw ar Gyngor Sir Gâr i chwilio am safle arall yn hytrach na chodi ysgol newydd ar gaeau chwarae yn y dref.

Yn ôl pobl leol, mae caeau Llanerch yn anaddas am fod yna danciau tanddaearol ar y safle.

Mae'r cyngor wedi bod yn pwyso a mesur naw o safleoedd posib ar gyfer adeilad newydd i Ysgol Dewi Sant, sydd ychydig gannoedd o fetrau o'r safle.

Ar hyn o bryd, mae'r awdurdod yn ffafrio caeau Llanerch ger afon Lliedi.

'Pryderus iawn'

Mae yna bryder ynglŷn â phresenoldeb tanciau tanddaearol ar y safle sydd yn storio dŵr a charthffosiaeth ar adegau o law trwm.

Dywed ymgyrchwyr eu bod wedi ffilmio'r tanciau yn gorlifo ar adegau pan mae glaw wedi disgyn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heather Peters bod y syniad o roi plant ar y safle yn "bryderus iawn"

Dywedodd Heather Peters, sy'n byw yn lleol: "Mae'r afon yn llifo fel ma' hi, ma' nhw wedi stopio'r maintenance ar y top 'na, chi'n gallu gweld ma'r dŵr yn rhedeg yn frown achos ma'n silto lan."

"Fydd llai o le i ddal y dŵr nol pan fydd y surges hyn yn dod trwyddo, so ma'n lle pryderus iawn i ddodi plant i ddweud y gwir.

Ychwanegodd: "Mae 'mhlant i wedi bod yna, mae'i plant nhw yn mynd yna, fi moyn dim ond y gore' i Ysgol Dewi Sant, ond ddim mewn lle pryderus fel hyn."

Mae ymgyrchwyr yn galw ar y cyngor i ddarganfod safle newydd, ac maen nhw'n honni nad oes hawl adeiladu ar y tanciau oherwydd bodolaeth hawddfraint rhwng y Cyngor Sir a Dŵr Cymru sydd yn gwahardd hynny.

Mae'r Aelod Cynulliad lleol, Lee Waters, wedi dweud ei fod e'n cefnogi adeilad newydd i Ysgol Dewi Sant, ond dyw e ddim cefnogi adeiladau ar gaeau Llanerch.

Mewn datganiad, fe ddywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno mewn egwyddor i ddatblygu Ysgol Dewi Sant, ysgol cyfrwng Cymraeg, ac wedi rhoi sêl bendith i gynllun busnes strategol.

Yn ôl yr awdurdod, dyma'r cam cyntaf yn y broses ac fe fydd angen cynlluniau busnes pellach cyn dechrau ar y gwaith.

Does yna ddim penderfyniadau terfynol wedi eu gwneud yn ôl y cyngor ac fe fydd angen cwblhau prosesau ymgynghori a chynllunio yn ôl y cyngor.

Doedd Dŵr Cymru ddim yn fodlon gwneud sylw manwl, gan ddweud y byddan nhw'n aros am gais cynllunio ffurfiol cyn ymateb.