'Nerfusrwydd' cyn canlyniadau PISA
- Cyhoeddwyd
Mae'r teimlad o aros am ganlyniadau profion ysgol yn un sy'n aros yn y cof.
Y dyfalu, y pryder y nerfusrwydd.
Ond wrth ddisgwyl am y sgor PISA diweddara, nid y disgyblion fydd yn mynd drwy'r felin.
Mae'r rhain yn cael eu gweld fel prawf o'r drefn gyfan a'r ffordd mae Gweinidogion ac arweinwyr addysg wedi ei llywio.
A dydy hi ddim yn ymddangos eu bod yn hyderus.
Mae yna ambell awgrym wedi dod eisoes na ddylid disgwyl gwelliant yn fuan a bod diwygiadau'n cymryd amser i ddwyn ffrwyth.
Dyna'r neges dair blynedd yn ôl hefyd, pan ddaeth Cymru ar waelod y tabl Prydeinig ac ymhell tu ôl i ranbarthau Tsieina, Singapore a Corea sydd ar y brig.
Ond y profion cyn hynny oedd y rhai tyngedfennol wrth benderfynu trywydd addysg Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Fe wnaeth cyfuniad o ganlyniadau siomedig a Gweinidog oedd yn awyddus i ddiwygio ac yn ddi-flewyn ar dafod olygu pwyslais newydd ar PISA.
Roedd y drefn yn methu, meddai Leighton Andrews, a gosodwyd PISA fel Y llinyn mesur ar gyfer perfformiad ysgolion Cymru.
Dywedodd, "Mae'r canlyniadau yma'n siomedig. Maen nhw'n dangos cwymp annerbyniol yn ein perfformiad - fe ddylai pawb sy'n rhan o'r sector addysg gael braw.
"Mae'n rhaid i ysgolion, awdurdodau lleol a ni fel llywodraeth edrych yn onest ar y canlyniadau a derbyn cyfrifoldeb amdanyn nhw."
Mae profion darllen a rhifedd blynyddol i blant 7 i 14 a diwygiadau i gyrsiau TGAU i roi mwy o bwyslais ar y math o sgiliau mae PISA yn ei fesur yn rhan o'r ymateb.
Felly hefyd y diwygiadau i ymarfer dysgu a'r hyfforddiant i athrawon yn ystod eu gyrfaoedd gyda'r bwriad o godi sgiliau a statws y proffesiwn.
Ac mae yna gwricwlwm newydd yn cael ei ddatblygu ar gyfer ein hysgolion sydd hefyd wedi ei ddylanwadu gan yr ymgais i wella perfformiad Cymru yn yr asesiadau rhyngwladol.
Mae na gefnogaeth yn gyffredinol yn y byd addysg i'r newidiadau - ond cwestiynau hefyd ynglŷn â pha mor effeithiol fydd y gweithredu.
Pan gyhoeddodd yr OECD, sy'n rhedeg profion PISA, adroddiad am addysg yng Nghymru ddwy flynedd yn ol fe ddywedon nhw fod y Llywodraeth wedi cyflwyno nifer o newidiadau'n gyflym ond doedd 'na ddim gweledigaeth hir dymor.
Yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams sydd bellach a'r cyfrifoldeb o gynnig yr arweiniad a'r weledigaeth.
A hi, fel Democrat Rhyddfrydol, fydd yn gorfod llunio'r ymateb i'r canlyniadau.
Dair blynedd yn ôl, roedd hi'n arwain y Democratiaid Rhyddfrydol ac yn gofyn i'r Prif Weinidog Carwyn Jones ar ddiwrnod cyhoeddi canlyniadau PISA, "Are you not ashamed?"
Wrth i Mr Jones ateb "Na", ymateb Ms Williams oedd "Complacent, complacent, complacent".
Cwestiynu PISA
Ond nawr fel rhan o'i gabinet, mae hi eisoes wedi dweud bod y diwygiadau addysg yn mynd a'r drefn i'r cyfeiriad cywir ond yn cymryd amser.
Os taw hynny yw'r ymateb i ganlyniadau siomedig, fe fydd hi'n cael ei chyhuddo o wneud esgusodion dros lywodraeth Lafur, sydd wedi bod yn gyfrifol am addysg Cymru ers 17 mlynedd - ac am ystod cyfan bywydau a gyrfaoedd addysg y disgyblion fuodd yn sefyll y profion PISA llynedd.
Mae 'na ddigon o bobl sy'n cwestiynu'r pwyslais ar PISA ac yn dweud nad yw'n adlewyrchu agweddau pwysig o brofiadau addysgiadol pobol ifanc.
A thra bod nifer o athrawon yng Nghymru yn ddrwgdybus o werth y profion mae'n anhebygol y bydd yna gamau mawr ymlaen.
Yn sicr, mae 'na fwy i addysg na PISA, ond tra bod Gweinidogion Cymru yn dweud mai dyma'r prawf mawr, fe fydd diffyg cynnydd unwaith eto yn ergyd.