"Jyst siaradwch gyda rhywun"
- Cyhoeddwyd
Mae cyfnod y Nadolig yn dod ag atgofion tywyll yn ôl i un ferch o Sir Gaerfyrddin, wedi i ffrind ladd ei hun dros gyfnod yr ŵyl ddwy flynedd yn ôl.
Eleni mae Sioned Thomas, 21 oed, o Lanpumsaint ger Caerfyrddin yn gobeithio codi arian at elusen Mind trwy greu calendr arbennig er cof am ei chyfaill.
Bu farw Dafydd Llyr Owain Jamieson ychydig wythnosau cyn y Nadolig yn 2014. Cafodd corff y sprintiwr 19 oed ei ddarganfod yng Nghaerdydd lle'r oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan y brifddinas.
Yng nghanol hwyl yr ŵyl, mae'r ysgytwad o golli ffrind mewn modd mor annisgwyl yn dal i boeni Sioned Thomas, ddwy flynedd yn ddiweddarach.
"Y noswaith hynny, daeth e mewn i fy ystafell i ofyn lle roedd y bois eraill, wedyn aeth e i'r gwely. Falle bod e wedi cael help proffesiynol, ond doedd e heb ddweud wrthon ni am y peth. Ddywedodd e'r un gair wrtha i am deimlo'n isel erioed," meddai.
"I ni, yn griw o ffrindiau, roedd Llyr yn berson hapus, roedd e'n gwneud yn dda, roedd ganddo ffrindiau da, roedd e mewn cariad, a ddim yn poeni am arian.
"Er ein bod ni gyd wedi ymdopi gyda'r peth yn wahanol, ro'n i gyd yna i gefnogi ein gilydd. Byddwn ni'n cwrdd lan dros yr ŵyl, i ddal fyny gyda'n gilydd, ond hefyd i gofio am Llyr."
Roedd hi'n 'nabod Llyr yn dda cyn mynd i'r brifysgol, ac roedd yn braf rhannu fflat â rhywun yng Nghaerdydd yr oedd yn ei nabod pan oedd pawb arall yn ddiarth iddi, meddai.
"Bachgen tawel oedd e'n y bôn, tan i chi ddod i'w adnabod e," meddai. "Bryd hynny, oedd e'n llawn drygioni! Ac mi oedd e'n hoff iawn o athletau ac yn rhedeg dros Gymru.
"Doedd dim rheswm i neb i amau bod rhywbeth yn bod, felly wrth edrych yn ôl, dwi'n teimlo nad o'n ni fel ffrindiau ddim wedi gallu ei helpu na'i anfon at y meddyg teulu, na dim byd.
"Pe bai rhywun yn peswch yn gas, bydden ni'n eu cynghori i fynd at y doctor, ond am nad ydy iselder yn weledol mewn sawl achos, mae mor anodd cynnig help llaw.
"Yn bersonol, ro'n i'n teimlo'n grac tuag ato fe ar un cyfnod, achos do'n i ddim yn deall pam oedd e eisiau rhoi ei ffrindiau a'i deulu drwy hyn i gyd.
"Do'n i ddim yn deall o gwbl, ddim yn deall pam na wnaeth e jest siarad gyda ni. Efallai y byddai dal yn fyw heddiw.
"Er nad ydw i'n dal i ddeall y rheswm tu ôl i'w farwolaeth, dw i'n deall ei fod yn rhywbeth cymhleth iawn. O'n i'n meddwl bod iselder yn digwydd i bobl sydd wedi cael rhywbeth mawr yn digwydd iddyn nhw yn eu bywydau. Neu bobl sydd yn poeni am arian, neu'n camddefnyddio sylweddau.
"Mae e wedi bod yn wake-up call mawr. Mae mor bwysig i siarad, hyd yn oed os ydych chi'n cael diwrnod gwael yn y gwaith neu'r ysgol, jyst siaradwch gyda rhywun, achos os ydy popeth yn adeiladu lan, bydd e'n rhy hwyr."
Codi arian, a gwneud calendr
Gyda'r poen o golli ei ffrind yr un mor fyw ag erioed eleni, roedd Sioned yn teimlo ei bod hi'n bryd codi arian i elusen MIND.
Mae'r calendr yn cynnwys lluniau o olygfeydd o ogledd Cymru i Sir Benfro, o bob tymor, ac ar werth yng Nghanolfan Dŵr Llandysul, siop y pentref yn Llanpumsaint, a thrwy Sioned Thomas ei hun.
"Do'n i ddim eisiau gadael i bob un arall sortio'r broblem. Dw i wedi creu calendr, gyda'r holl arian yn mynd at elusen. Gobeithio bydd yr arian yn help i greu mwy o grwpiau cymorth, ac mae mor bwysig i godi ymwybyddiaeth am y pwnc.
"Dydy pobl fel arfer ddim eisiau clywed y geiriau 'iselder' a 'hunan-laddiad', ond maen nhw'n dal i fodoli, yn dal i ddigwydd.
"Mae pobl yn siarad llawer mwy am ganser y dyddiau yma, dylai'r un peth fod yn wir gydag iselder.
"Trwy greu calendr gyda lluniau pert, dw i'n gobeithio bydd mwy o bobl yn siarad am y peth, a theimlo nad oes angen iddyn nhw fod yn dawel.
"Hyd yn oed os mae'r arian dw i wedi ei godi yn helpu un person, neu olygu bod un person yn siarad am y peth, bydda i'n hapus dros ben."
Angen chwalu stigma
Efallai nad oes angen mynd i siarad gyda arbenigwr yn syth, os ydych chi'n dioddef o iselder, meddai, ond mae'n bwysig i droi at rywun.
"Mae siarad gyda ffrind yn gallu cymryd y pwysau bant o ysgwyddau rhywun sy'n dioddef o iselder. Synnech chi faint o bobl eraill sy'n poeni am yr un fath o bethau," meddai.
Dydy'r ffaith bod yna fwy o stigma yn perthyn i iselder ymhlith bechgyn a dynion ifanc ddim yn helpu, meddai.
"Mae trafodaethau am iechyd rhywiol, yfed a gyrru, tecstio a gyrru a chamddefnyddio sylweddau yn digwydd mewn ysgolion, ond mae iechyd meddwl yn cael ei anwybyddu. Neu'n cael ei ystyried dim ond os oes rhywun yn mynd i ofyn am help.
"Mae pobl ifanc yn annhebygol iawn o wneud hynny felly mae angen newid yn y system.
"Mae yna help ar gael, ond mae merched yn fwy tebygol o siarad gyda rhywun pan maen nhw'n poeni am rywbeth, neu â rhywbeth ar eu meddwl.
"I fechgyn, mae yna fwy o stigma am lefain neu ddangos eu bod nhw'n poeni am bethau."