Lloyd George: 'Tad y Gymru fodern?'

  • Cyhoeddwyd
Lloyd George ifancFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Archifau Gwynedd

Am tua 21:00 ar 6 Rhagfyr 1916 fe wnaeth Brenin Siôr y Pumed wahodd David Lloyd George i ffurfio llywodraeth, a'r diwrnod canlynol fe gerddodd yr unig Gymro Cymraeg erioed drwy ddrws rhif 10 Downing Street fel Prif Weinidog.

Canrif union i'r dyddiad, fe fydd y newyddiadurwr Huw Edwards yn traddodi araith fydd yn gofyn y cwestiwn: "Ai Lloyd George yw tad y Gymru fodern?"

Dywedodd Huw Edwards: "Mae'n cael ei glodfori gan lawer - yn gwbl briodol - fel tad y Wladwriaeth Les yn dilyn ei Gyllideb i'r Bobl yn 1909 a'r frwydr gyfansoddiadol a frwydrodd ac a enillodd yn Nhŷ'r Arglwyddi.

"Ond a oes modd hefyd ei alw'n dad datganoli fel mae rhai yn mynnu?

"Gellid dadlau mai isafbwynt ei yrfa wleidyddol cyn mynd i Rhif 10 oedd yn 1896 pan ddaeth ei ymdrechion i sefydlu mudiad ieuenctid cenedlaetholgar, Cymru Fydd, gyda'r Rhyddfrydwyr Cymreig i ben mewn cyfarfod cyhoeddus ofnadwy yng Nghasnewydd.

"Tan hynny roedd yn eiriolwr grymus dros hunanlywodraeth i Gymru gan bregethu manteision gwledydd bychain yn rheoli eu tynged eu hunain.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Archifau Gwynedd

"Diflannodd ei ddiddordeb mewn hunanlywodraeth ar ôl 1896 wrth iddo ddatblygu ei yrfa ar lwyfan Prydeinig a byd eang, ond mae llawer o'r themâu a ddatblygodd yn ystod cyfnod Cymru Fydd yn atseinio heddiw.

"Mae nifer o wendidau ac anghenion Cymru ganrif yn ôl yn dal gyda ni heddiw. Fe aeth i'r afael â nhw bryd hynny ac fe welodd yr angen i weithredu."

Ond sut mae haneswyr heddiw yn cofio David Lloyd George?

Dywedodd yr hanesydd Bob Morris: "Roedd y wasg ar y pryd yn ei gyfrif o 'y dyn a enillodd y rhyfel'.

"Roedd o wedi dod ag arweiniad mwy penderfynol, roedd o'n drefnydd effeithiol ac yn dod a gweinyddwyr proffesiynol a phobol o fyd busnes i redeg rhannau o'r llywodraeth. Roedd o hefyd wedi mynnu fod yna drosolwg dros strategaeth, fod yna un pennaeth ar luoedd y Gorllewin er mwyn sicrhau fod yna arweiniad canolog.

"O ran gwaddol tymor hir, fo a gyflwynodd y ddeddf a roddodd y bleidlais i ferched, roedd o'n gyfrifol am Ddeddf Addysg newydd oedd yn trio sicrhau fod yna addysg uwchradd ar gael i bob un plentyn.

"Yng Nghymru mae'n cael ei gofio am sefydlu'r Eglwys yng Nghymru fel mae hi heddiw, trwy ddadsefydlu yr hen eglwys wladol a chreu Eglwys yng Nghymru hefo'i Archesgob ei hun."

Bu farw David Lloyd George ar 26 Mawrth, 1945, ac fe gafodd ei gladdu ar lan Afon Dwyfor. Bob blwyddyn ar ddiwrnod ei ben-blwydd mae plant Ysgol Llanystumdwy yn cynnal gwasanaeth ar lan ei fedd.

Ffynhonnell y llun, Bengy Carey Evans