Merched ar y blaen

  • Cyhoeddwyd
Wiki

Mae'r Wicipedia Cymru yn arwain y ffordd wrth roi sylw haeddiannol i fenywod.

Yn ddiweddar cafodd Golygathon ryngwladol ei chynnal i leihau'r bwlch rhwng y cofnodion am ddynion a'r rhai am ferched.

Erbyn hyn mae 'na fwy o erthyglau am fenywod ar Wicipedia Cymru na sydd yna am fenwyod

Rheolwr Prosiectau Wicimedia yng Nghymru yw Robin Owain:

"Mae hyn yn gam enfawr i Wici Cymru, ond dim ond y cam cyntaf ydy o! Mae'n rhaid i ni sicrhau fod y wybodaeth o fewn yr erthyglau hefyd yn niwtral a theg ar sefyllfa'r fenyw yng Nghymru a'r byd, dros y canrifoedd. Mae'r erthygl ar 'ffeministiaeth' er enghraifft yn gweiddi am ragor o wybodaeth a gogwydd Gymreig iddi. Ond mae'n ddechrau da! Ac mae cynlluniau eraill ar y gweill yn ystod y misoedd nesaf."

Dim ond tua 15% o olygyddion Wicipedia sy'n fenywod ac mae llai na 17% o gofnodion yn fywgraffiadau o fenywod.

Ymhlith y merched sydd eisoes yn cyfrannu i dudalennau Wicipedia Cymraeg, dolen allanol mae Eleri James o Aberystwyth. Bu'n egluro wrth Cymru Fyw am y gwaith sy'n cael ei wneud i gynnal y tudalennau ar-lein:

Wythnosau o ymchwil

Mi nes i ddechrau ymddiddori yn y gwaith ar ôl i mi ddigwydd taro ar erthygl fer ar Wicipedia Cymraeg oedd yn trafod y dyddiad "31 Gorffennaf". Roedd yna gamgymeriadau di-ri ynddi, ac fe es ati i'w chywiro ac ymhelaethu arni.

Mae'r amser rwy'n dreulio ar ddiwygiadau yn dibynnu ar sawl ffactor. Beth sy'n allweddol wrth gwrs yw dod o hyd i'r ffeithiau cywir.

Gall cywiro neu ychwanegu un ffaith gymryd pum munud i'w gwblhau tra gall ychwanegu un pargagraff ar sail un ffynhonnell sydd wrth law gymryd hanner awr.

Ond po hiraf yr erthygl, po fwya'r ymdrech i'w hysgrifennu ond hefyd po fwya'r boddhad o ysgrifennu erthygl swmpus. Os oes lot o waith ymchwil i'w wneud cyn gallu ysgrifennu, yna fe fydd yn cymryd wythnosau lawer i fynd i lyfrgelloedd, gwneud nodiadau ac yna ysgrifennu'r erthygl.

Disgrifiad o’r llun,

Golygathon i fenywod yn San Francisco y llynedd

Mae'r amser y mae hi'n gymryd i gyfieithu erthyglau i'r Gymraeg yn dibynnu ar brofiad a chyflymder y golygydd. Dwi ddim yn cyfieithu'n gyflym o gwbl fy hunan ond mae'n waith cyflymach nag ysgrifennu o'r newydd, wrth gwrs.

Dyw ysgrifennu ar Wicipedia ddim yn fwy o waith nag ysgrifennu'n unman arall, wedi i rywun ymarfer ychydig gyda'r dechnoleg. Ond mae'r dod i arfer yn waith - dyna pam mae Golygathon yn ddefnyddiol.

Ar hyn o bryd mae tua 100-150 o bobl yn fisol yn ychwanegu gwybodaeth neu olygu cofnodion ar Wicipedia Cymru. Ond dim ond tua 30 sy'n gwneud mwy na pump o newidiadau (sef 'golygiadau' yn nherminoleg Wici) y mis.

Cywaith yw Wicipedia. Mae'n gweithio trwy bod cyfranwyr yn darllen ac yn mireinio gwaith ei gilydd. Y term am gyfrannwr i Wicipedia yw 'golygydd'. Mae camgymeriad gan gyfrannwr newydd yn gyfle i gynnal trafodaeth gyda'r cyfrannwr.

Mae angen gosod ffynhonnell i bob ffaith sy'n cael ei roi ar Wicipedia. Felly os yw'r ffynonellau'n brin mae'n anos ysgrifennu erthygl ar y pwnc hwnnw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae llwyddiant ysgubol Jade Jones yn golygu bod angen golygu'r dudalen ar WiciCymru yn gyson!

Amser yn brin

Dynion yw tua 85% o gyfranwyr Wicipedia'n mae'n debyg. Byddai hi'n braf gweld nifer y golygyddion benywiadd yn codi.

Gwyddoniadur cyffredinol yw Wicipedia, nid gwyddoniadur am Gymru. Mae'n bosib i annog y rhai sydd eisoes yn cyfrannu at Wicipedia i gyfrannu at y maes o ehangu'r erthyglau am Gymru a'r Cymry, ond mae'n well annog cyfrannwyr newydd i gyfrannu at unrhywbeth sydd yn eu diddori.

Byddai'n dda cael erthyglau mwy swmpus yn Gymraeg ar ystod eang o bynciau. Os oes erthygl swmpus i gael ar rhyw bwnc, yna byddai'n beth da petai yna bobl ar gael fyddai'n fodlon i roi dolenni i'r erthyglau hynny o wefannau a blogiau eraill.

Ry'n ni fel golygyddion wedi trafod sut i annog rhagor o gyfraniadau. Ymhlith y pwyntiau sydd wedi eu codi mae:

  • Cael pobl i ryddhau cynnwys yn agored, er mwyn ei ail-ddefnyddio ar Wici

  • Cydweithio efo'r byd addysg yng Nghymru i wneud gwell defnydd o'r Wici Cymraeg fel llwyfan ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth am Gymru a'i phobl

  • Annog sefydliadau a chwmnïau i ofalu bod y cynnwys amdanyn nhw a'u pobl ar Wicipedia yn gywir

Fe wnes i siarad am Wicipedia Cymraeg gyda changen o Ferched y Wawr un tro - petai amser gennyf byddwn yn hoffi siarad gyda rhagor o gymdeithasau - ond does dim amser gen i.

Amser yw'r rhwystr hefyd i nifer o fy nghydnabod pan rwy'n ceisio eu hannog i fynd ati i gyfrannu i Wicipedia.

Gobeithio y bydd rhagor o fenywod - a dynion yn camu i'r adwy i sicrhau y bydd 'na ragor o wybodaeth yn y Gymraeg ar gael ar Wici Cymru.