Angen 'cynllunio gwell' i leihau pwysau gaeaf ar y GIG

  • Cyhoeddwyd
Hospital corridorFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae angen i'r Gwasanaeth Iechyd gynllunio'n well gydol y flwyddyn er mwyn osgoi pwysau enbyd bob gaeaf, yn ôl pwyllgor o ACau.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi gwario £50m yn ychwanegol eleni i geisio diwallu gofynion ychwanegol ar y GIG yng Nghymru yn ystod y gaeaf, dywed yr ACau fod mwy y gellir gwneud.

Mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi bod yn asesu pa mor barod yw ysbytai, meddygfeydd a chlinigau Cymru i ddelio â'r pwysau ychwanegol sy'n dod yn ystod y gaeaf.

Ymysg eu hargymhellion mae galwad i roi mwy o sylw i wasanaethau cymdeithasol.

Mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn aml yn hanfodol i ymdrechion i leihau rhestrau aros, gan fod galw am ofal cymdeithasol yn aml wrth i gleifion baratoi i adael yr ysbyty.

Hospital bedsFfynhonnell y llun, Thinkstock

Dylai mwy o staff y GIG yng Nghymru dderbyn y brechiad ffliw hefyd, medd y pwyllgor.

Dywedodd Dai Lloyd, cadeirydd y pwyllgor: "Mae'n amlwg o'r dystiolaeth a glywsom nad yw llawer o'r elfennau sy'n rhoi GIG Cymru o dan bwysau yn gyfyngedig i un cyfnod neu dymor, ond eu bod yn hytrach yn bresennol gydol y flwyddyn.

"Serch hynny, mae'n amlwg hefyd bod cynnydd sydyn a thymhorol yn y galw, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf, sy'n rhoi system sydd eisoes yn gweithio i'w heithaf o dan ragor o straen.

"O ganlyniad, yn sylfaenol, mae cynllunio at y cyfnod hwn yn golygu ceisio cyfyngu ar effeithiau'r cynnydd sydyn hwn yn y galw ond gan ddal i ddarparu gwasanaethau craidd eraill, gan gynnwys elfennau dewisol.

"I'r perwyl hwnnw, fel mater o flaenoriaeth, rydym am weld ffocws amlwg ar integreiddio'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys y modd y maent yn cynllunio a darparu gwasanaethau."

'Angen buddsoddiad digonol'

Mae Cymdeithas Feddygol BMA Cymru a'r Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru (RCN) wedi croesawu'r argymhellion yn yr adroddiad ynglŷn ag integreiddio'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

Ond fe alwodd y BMA am fwy o fuddsoddiad mewn gofal sylfaenol.

"Mae gofal sylfaenol yn allweddol ac yn gallu sicrhau nad ydi pobl yn gorfod mynd i'r ysbyty, ond yn hytrach aros yn, neu yn agos at eu cartref," meddai cadeirydd Cyngor BMA Cymru, Dr Phil Banfield.

"Ond all hynny ddim digwydd heb fuddsoddiad digonol ac ymrwymiad.

"Mae gwrando ar anghenion staff yn allweddol, ac mae'n rhaid i wlâu fod ar gael tra mae hynny'n digwydd."

Fe ddywedodd cyfarwyddwr yr RCN yng Nghymru, Tina Donnelly eu bod yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod yr effaith y mae'r gostyngiad mewn niferoedd nyrsys cymunedol wedi ei gael ar y gwasanaeth iechyd yn ystod misoedd y gaeaf, gan gytuno â'r pwyllgor bod hyn yn rhywbeth y mae angen i Lywodraeth Cymru roi sylw iddo ar frys.

Ond fe ychwanegodd eu bod yn siomedig nad ydi hynny wedi cael ei gynnwys fel argymhelliad penodol yn yr adroddiad.