Tipio anghyfreithlon yn costio £2.1m ar draws Cymru

  • Cyhoeddwyd
Tipio

Mae'r gost o glirio sbwriel oherwydd tipio anghyfreithlon wedi cyrraedd £2.1m.

Roedd 36,259 achos o dipio anghyfreithlon yn ystod 2015/16, yn ôl ystadegau gan awdurdodau lleol Cymru.

Mae hynny yn gynnydd o 4,546 ers y flwyddyn flaenorol.

Fodd bynnag mae nifer yr achosion wedi lleihau yn sylweddol ers 2007/08 pan roedd 61,995 o achosion.

Codi ffioedd casglu?

Ddydd Mawrth fe fydd Cyngor Sir Conwy yn cwrdd i drafod codi ffioedd ar gyfer casglu gwastraff swmpus gan gynnwys darnau o hen geginau, rwbel ac ati.

Yn ôl adroddiad fydd yn cael ei ystyried gan gynghorwyr, fe allai codi ffioedd "rhesymol" greu incwm o tua £120,000 i'r cyngor.

Mae'r adroddiad yn cydnabod y gallai'r cynllun arwain at bryderon y gallai tipio anghyfreithlon gynyddu.

Fe allai'r rhai sy'n tipio yn anghyfreithlon wynebu dirwy neu gyfnod mewn carchar.

Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth newydd a allai orfodi pobl sy'n tipio sbwriel dalu treth ychwanegol.

Y llynedd roedd y nifer mwyaf o achosion o dipio anghyfreithlon yng Nghaerdydd (6,214), gyda'r nifer isaf yn Wrecsam (158).