Cyngerdd olaf ar gyfer trigolion Penrhos

  • Cyhoeddwyd
Friendship Hall at Penrhos Polish HomeFfynhonnell y llun, Eric Hall/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd cyngerdd nos Sul yn cael ei gynnal yn neuadd Penrhos

Fe fydd elusen gafodd ei ffurfio i gynorthwyo 'pentref' Pwyleg yn y gogledd yn cynnal eu gwasanaeth carolau olaf un yn ddiweddarach ddydd Sul.

Mae Cyfeillion Cartref Penrhos ger Pwllheli wedi codi £180,000 ers cael eu sefydlu 18 mlynedd yn ôl.

Ond dywed y trefnwyr fod aelodau'r gymdeithas yn heneiddio a bod yn rhaid rhoi'r gorau i'w hymdrechion.

Cafodd cartref Penrhos ei sefydlu yn 1949 ar gyn safle'r awyrlu er mwyn rhoi cartref i filwyr Gwlad Pwyl ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Bron i 70 o flynyddoedd yn ddiweddarach mae'r safle 8 hectar yn dal i ofalu am anghenion y pensiynwyr sy'n byw yno.

Dywedodd Eryl Williams, cadeirydd yr elusen, y bydd heno'n noson anodd ond un llawn atgofion.

"Rydym wedi dod i adnabod trigolion Penrhos - a bydd hi'n drist gorfod ffarwelio am y tro olaf."

Yn y dyddiau cyntaf cytiau pren oedd yn rhoi cartref i ran fwyaf o drigolion Penrhos ar y cyn faes awyr.

Ond erbyn heddiw mae'r safle yn cynnig cartref gofal a hefyd cartrefi sy'n caniatáu i bobl fyw yn annibynnol.

"Ma'r lle wedi datblygu yn rhan o'n cymuned, ac mae wedi bod yn brofiad hynod i allu helpu'r trigolion," meddai Mrs Williams.

"Ond does yna ddim gwirfoddolwyr newydd yn dod i'r fei i gynorthwyo, felly rŵan yw'r amser i ddweud ffarwel."

Disgrifiad o’r llun,

Llun o'r safle yn y 60au