"Ar fy ngwaetha'"
- Cyhoeddwyd
Mae dynes ifanc o Geredigion wedi dioddef o or-bryder am flynyddoedd. Dechreuodd ei anhwylder yn dilyn marwolaeth ffrind pan oedd hi'n blentyn.
Am y tro cyntaf, mae'n siarad yn agored am yr anhwylder a'i hymdrechion i'w reoli. Dyma hi'n rhannu ei phrofiad gyda BBC Cymru Fyw:
Dim ond naw oed oedd Ursula Coote pan fuodd ei ffrind gorau yn Ysgol Gynradd Llandysul, Alice, farw o diwmor ar yr ymennydd.
Ac mae cwnselydd sydd wedi ei thrin am or-bryder yn grediniol mai dyna sydd wrth wraidd gor-bryder y ferch, sydd bellach yn 23 oed ac yn dal i fyw yn y cyffiniau.
Dywed Ursula ei bod hi'n cofio popeth o'r cyfnod hwnnw - o'r diagnosis i'r diwrnod y bu Alice farw.
"Do'n i'n methu'n lân â deall pam oedd rhaid iddi farw, a pham aeth hi'n sâl yn y lle cyntaf," meddai.
"Doedd neb wedi dod i siarad gyda fi ar ôl iddo ddigwydd, i roi cysur, a dweud nad oedd hyn yn digwydd i bawb, a bod Alice wedi bod yn anffodus iawn i'w gael e.
"Wrth dyfu lan, roeddwn i'n credu bod gen i hefyd diwmor ar yr ymennydd bob tro oedd gen i ben tost," meddai. "Roeddwn i'n Gwglo bob symptom oedd gen i.
"O hynny 'mlaen, fe wnaeth y gor-bryder ddwysáu a gwaethygu'n fawr dros y blynyddoedd."
Gwrando
Wedi blynyddoedd yn dioddef o or-bryder, aeth Ursula i weld cwnselydd ddechrau'r flwyddyn eleni a lwyddodd i fynd at wraidd y broblem.
"Do'n i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl wrth weld cwnselydd. Ac ar ôl y sesiwn gyntaf ro'n i'n teimlo fel nad oedd hi wedi gwrando o gwbl," meddai.
"Roedd hi'n gofyn cwestiynau oedd yn ymddangos yn amherthnasol, ro'n i'n dweud un peth, ac oedd hi fel pe bai hi ddim yn ymateb i hynny, ond yn mynd ar drywydd arall.
"Ond erbyn yr ail sesiwn, wnes i ffeindio mas pam oedd hi'n gofyn yr holl bethau, a chafodd hi lot o bethau mas ohona i heb i fi wybod ei bod hi wedi eu cael nhw."
Roedd hynny'n cynnwys yr hanes am ei chyfaill Alice, meddai, ac roedd y cwnselydd yn grediniol mai dyna oedd wedi achosi ei anhwylder.
Bygythiad
Yn ôl elusen Anxiety UK, dolen allanol, caiff gor-bryder ei achosi'n aml iawn gan ddigwyddiad trawmatig yn y gorffennol. Gall olygu bod y meddwl yn rhy sensitif i fygythiadau posib i ddiogelwch yr unigolyn.
"Dwi ddim yn cysgu'n iawn, fy nghalon yn curo'n glou drwy'r amser, dwi'n chwysu. Mae e fel pe bai rhywbeth yn dod drosta i, a finne'n methu esbonio wrth neb beth yw e," meddai.
"Os ydw i'n meddwl bod rhywbeth yn mynd i gael effaith arna i mewn ffordd gwael, dwi'n dechrau cael panig. Ac mae'r meddwl yn dechrau troi a throi gyda posibiliadau gwirion."
Mae hynny, yn ei dro, yn cael effaith ar ei pherthynas ag eraill, meddai, wrth iddi ymddwyn mewn modd sydd "ddim yn dderbyniol".
"Fydda i byth yn dweud wrth neb, ond bydd iaith fy nghorff yn newid, a fy mhersonoliaeth hefyd, a bydd gen i hwyliau gwael.
"Yr unig bobl sydd wedi fy ngweld i ar fy ngwaethaf yw'r bobl dwi wedi bod mewn perthynas â nhw.
"Do'n nhw ddim yn gwybod sut i ymateb oherwydd do'n i ddim yn gallu esbonio pam ro'n i'n adweithio fel yna. Do'n nhw ddim yn deall chwaith."
Mi wnaeth ei iechyd meddwl waethygu pan gafodd ei hun mewn perthynas ansefydlog yn ei harddegau hwyr.
"Roedd fy nghariad cyntaf yn gweld merched eraill tu ôl i fy nghefn, ac roedd e'n dreisgar hefyd," meddai. "Wnaeth hynny ddim helpu pethau."
Tan iddi ddechrau gweld cwnselydd, doedd hi ddim yn ymdopi gyda'r pyliau o gor-bryder, meddai Ursula.
"Ro'n i jest yn dod trwy'r pwl, tan iddo ddigwydd eto. Ar un adeg roedd y pyliau'n digwydd mor aml, o'n i'n methu a chael rheolaeth arno, a dyna pam es i at y doctor ddechrau'r flwyddyn.
"Do'n i ddim yn gallu ymdopi rhagor, ac ro'n i'n gwybod fy mod i angen cael help."
Aeth i weld meddyg i ddechrau, meddai, gan feddwl y byddai tabledi yn ei helpu.
"Ond wrth i mi esbonio'r symptomau, wnaeth e awgrymu y byddai gweld cwnselydd yn llesol, a ges i dabledi tymor byr," meddai.
"Ro'n i'n teimlo'n fwy cŵl gyda'r tabledi ond roedd y sgil effeithiau yn afiach - methu cysgu, a theimlo'n flinedig drwy'r amser."
Ceisio cael tro ar fyd
Mae Ursula Coote yn teimlo bod y gor-bryder wedi cael gafael tynn yn ei bywyd hyd yn hyn, ond mae hi'n ceisio newid pethau.
Yn sicr mae cael cefnogaeth ei chariad, Charlie, a'i ffrind gorau, Claire, yn dipyn o gymorth iddi, wrth iddyn nhw fod yn glust i wrando.
"Mae e'n sicr wedi fy nal i nôl mewn bywyd, ond ers mynd at y cwnselydd, mae hi wedi fy nysgu i sut i feddwl yn wahanol a sut i ymateb i sefyllfaoedd gwahanol," meddai.
"Sa i'n dweud fy mod i'n 'normal' erbyn hyn, ond mae e wedi helpu dipyn.
"Dwi'n meddwl nad ydy e'n iach i gadw popeth i'ch hun, felly does dim angen bod â chywilydd os oes angen troi at gwnselydd.
"Dwi'n teimlo ei bod hi wedi agor llawer iawn o ddrysau i fi, a thaflu goleuni ar pam o'n i'n ymateb yn y ffordd o'n i i ambell sefyllfa."
Mae wedi bod yn addysg, meddai, ac yn ffordd iddi ddysgu ymdopi, ar adeg pan oedd y gor-bryder yn rheoli.
"Bydd rhaid i fi fyw gyda hwn am weddill fy mywyd ond dwi'n gobeithio y bydda i'n gwella ac yn gwella."