Calendr Adfent unigryw 'i uno'r gymuned'
- Cyhoeddwyd
Mae stryd ym Mhenarth wedi dod â mwy o liw a golau nag arfer i'r Nadolig yn y dref eleni, drwy greu eu calendr Adfent unigryw eu hunain.
Bob dydd ers 1 Rhagfyr, mae ffenest newydd wedi ei haddurno a'i goleuo ar Stryd Arcot yn y dref, yn arwain at y Nadolig.
Un o bobl y stryd, Rosslyn Offord, gafodd y syniad, a hynny am ei bod hi'n teimlo bod angen gwneud rhywbeth positif: "Clywais i am syniad Living Advent Calendr a meddwl ei fod yn syniad hyfryd.
"Ar ôl y refferendwm yn yr haf, roedd popeth yn teimlo'n tipyn bach yn drist - un grŵp yn erbyn grŵp arall, ac ro'n i'n meddwl, wel, mae'n neis i ffeindio rhywbeth mae pobl yn gallu gwneud gyda phobl eraill, rhywbeth positif."
Dywedodd Rosslyn nad oedd hi'n nabod llawer o bobl y stryd cyn hyn: "Ro'n i'n meddwl ei fod yn bwysig i nabod cymdogion, ac mae hyn yn un ffordd o drio."
"Fe wnaeth fy mab, Osian, fy helpu i. Ysgrifennodd e wybodaeth i'r cymdogion i esbonio'r syniad, a wedyn aethon ni lan a lawr y stryd yn cnocio ar y drysau a siarad gyda pawb."
"Rwy wedi mwynhau eitha lot," meddai Osian. "Roedd yn eitha anodd pan oedd 'na un neu ddau ar ôl, achos roedd llawer o bobl ddim eisiau neud e."
Mae Rosslyn wedi ei synnu gyda'r sylw y mae'r syniad wedi ei gael, ac mae'r ffenestri i'w gweld ar wefan arbennig, dolen allanol.
Mae'n dweud y bydd hi'n ystyried nawr cyn penderfynu a fyddan nhw'n gwneud yr un peth eto'r flwyddyn nesa.
"Dwi wedi mwynhau e, ac mae lot o bobl wedi mwynhau dwi'n meddwl. Dwi'n mynd i aros i weld beth mae pobl yn dweud.
"Ni'n mynd i gael parti gyda'n gilydd yn fuan ac efallai gallwn ni weld wedyn beth fyddai pobl yn hoffi ei wneud."