Ateb y Galw: Ed Talfan
- Cyhoeddwyd
Y cynhyrchydd Ed Talfan sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Mali Harries yr wythnos diwethaf.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Fy atgof cynhara' yw cerdded ar hyd y gamlas yn yr Eglwys Newydd gyda fy mam. Roedd hi'n rhewllyd ac yn oer. Dw i'n meddwl o'n i'n dair oed.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Nes i gwrdd â fy ngwraig pan o'n i'n wyth oed, felly dim ond un ateb sydd i'r cwestiwn yma!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Refferendwm yr UE. Pan ddeffres i ar Fehefin y 24ain eleni, roedd gen i gywilydd bod yn Brydeiniwr.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Tra'n gwylio Channel 4 News wythnos diwethaf gyda fy mab naw oed; roedd rhaid ceisio egluro wrtho pam nad oes unrhywun yn gwneud unrhywbeth am y ffaith fod pobl ddiniwed Syria yn parhau i gael eu lladd.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dw i'n cytuno i wneud gormod o bethau.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Castell San Dunwyd, ger Llanilltud Fawr. Dw i'n meddwl i'r ddwy flynedd dreuliais i yno - yng Ngholeg yr Iwerydd - newid fy mywyd.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Y noson cafodd Oscar, fy mab hynaf, ei eni.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Chwilfrydig. Obsesiynol. Diamynedd.
Beth yw dy hoff lyfr?
Nes i ddarllen To Kill a Mockingbird mewn un eisteddiad ar draeth yn Corfu. Ro'n i mewn dagrau erbyn y diwedd... ac wedi llosgi.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Orson Welles. 'Swn i wrth fy modd yn ei holi am ei brosiectau anorffenedig ac am ddiweddglo gwreiddiol The Magnificent Ambersons sy'n enwog am gael ei ail-saethu - a'i strywa - gan y stiwdio.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
Yr ateb hoffwn i roi yw The Virgin Spring gan Ingmar Bergman. Yr ateb gonest yw Ghostbusters.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Bydden i'n ei dreulio gyda fy ngwraig a fy mhlant ac yn cael barbeciw.
Dy hoff albwm?
Mae'n newid bob wythnos, ond ar hyn o bryd Rubber Soul gan The Beatles.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - be fyddai'r dewis?
Dw i'n sicr yn berson pwdin. Fy hen fodryb - Anti Betty - oedd yn gwneud y treiffl cwstard gorau un.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?
Buster Keaton. Bydden i'n mynd yn ôl i fis Gorffennaf 23ain 1926 i uchafbwynt ffilm The General sef golygfa'r train wreck - y saethiad drytaf yn hanes silent film!
Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Ed Thomas