Ioan yn ôl i'w wreiddiau
- Cyhoeddwyd
Mae o'n actor sydd wedi hen ennill ei blwy yr ochr draw i Fôr Iwerydd gan serennu yn ffilmiau antur Fantastic Four a chyfresi teledu poblogaidd fel Forever ac UnReal.
Ond y Nadolig hwn mae Ioan Gruffudd yn ffarwelio â Los Angeles ac yn dod adre i ymchwilio i'w wreiddiau yn y gyfres Coming Home ar BBC One Wales.
Bu'n sôn mwy wrth Cymru Fyw am ei yrfa ddisglair ac am ei deimladau tuag at Gymru:
I fod yn hollol onest ers i mi adael Cymru dwi rioed wedi edrych yn ôl. Wrth reswm, dwi'n gweld ishe fy nheulu a'm ffrindie, ond dwi ddim yn hiraethu yn angerddol am y wlad. Mae'n rhan ohonof i. Rwy'n cadw Cymru gyda fi ble bynnag rwy'n digwydd bod ar y pryd.
Rwy'n dilyn y timau rygbi a phêl-droed yn angerddol. Ro'n i wedi gwirioni gyda llwyddiant Cymru yn Euro 2016 ac falle i chi gofio'r embaras hwnnw'r llynedd pan dynnodd fy ngwraig Alice fideo ohonai yn fy mhants yn dathlu buddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr yng Nghwpan Rygbi'r Byd. Sai'n credu y bydd yn rhaid i chi guddio tu ôl i'r clustoge y flwyddyn nesa'. Sai'n gweld Cymru yn curo'r Saeson ym Mhencampwriaeth y chwe gwlad!
Tra'n ffilmio Coming Home roedd hi'n braf cael mynd yn ôl i fy hen ysgol, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Mae gen i lawer i ddiolch i'r ysgol. Ro'n i wedi cael shwt gymaint o gyfleoedd i ganu ac adrodd.
Ro'n i'n perfformio yn gyson gyda'r gerddorfa a bandiau'r ysgol ac yn ennill mewn eisteddfodau. Mae hi'n unigryw rwy'n credu fel ysgol ac wedi rhoi llwyfan da i mi a fy ffrind Matthew Rhys ac actorion eraill fel Erin Richards a Iwan Rheon sydd wedi gwneud enw iddyn nhw eu hunain yma yn America.
Mae'r ysgol hefyd yn cynhyrchu pencampwyr o fri. Rwy mor falch o lwyddiant Jamie Roberts yn nhîm Cymru a'r Llewod, ac wrth gwrs ro'n i'n dathlu eto yr haf yma pan enillodd y seiclwr Owain Doull fedal aur yn y Gemau Olympaidd.
Doedd gen i ddim uchelgais i fod yn actor tan i mi gael rhan Gareth Wyn yn y gyfres Pobol y Cwm. Roedden nhw'n chwilio am fachgen tua 11 oed gydag acen orllewinol yn hytrach na acen Caerdydd. Felly diolch i gefndir fy nheulu cefais gyfle bendigedig tra'n ifanc.
Fe ddysgais i lot yn ystod fy nghyfnod yn Cwmderi a chael agoriad llygaid i fyd yr actor proffesiynol. 'Nes i gwympo mewn cariad gydag actio ac roedden ni'n cael shwt gyment o sbort a gwaith cyson. Ond fe ddysges i hefyd nad oedd e'n hwyl i gyd. Doedd cytundebau ambell i actor ddim yn cael ei ymestyn felly fe weles i ochr arall y geiniog.
Rwy wedi bod yn ffodus fy hun ers y dyddie cynnar i weithio'n gyson ond rwyf innau wedi profi'r siom o gyfres yn dod i ben. Ro'n i'n credu y byddai Forever yn parhau am byth! Ond chafodd y gyfres ddim ei hail gomisiynu ar ôl y gyfres gyntaf. Byddwn i wedi gallu chwarae rhan Dr Henry Morgan am weddill fy oes.
Dwi'n credu fy mod i ymhlith 25% o actorion yma yn Los Angeles sy'n gweithio yn gyson. Dyw'r clyweliadau ddim yn mynd dim haws, ond mae gwasanaethau fel Netflix ac Amazon yn golygu bod safon cynhyrchiadau yn dal i godi a mwy o arian ar gael i greu dramâu newydd.
Rwy wedi cael y cyfle i wneud ffilmiau a chyfresi teledu poblogaidd felly mae gen i le i fod yn ddiolchgar. Rwy wedi bod yn Llundain yn ddiweddar yn ffilmio cyfres Liar i ITV. Mae hi wedi cael ei sgwennu gan y brodyr Williams sydd wedi cael canmoliaeth uchel yn ddiweddar am y gyfres The Missing.
Gobeithio y bydd hon yr un mor afaelgar ar ffilm ag yw hi ar bapur. Dwi newydd orffen ffilm hefyd The Professor and the Madman gyda Sean Penn a Mel Gibson. Bydd honno yn y sinemâu yn y flwyddyn newydd.
Mae hi'n rhodd fawr gan BBC Cymru i roi'r cyfle i mi ymchwilio i fy ngwreiddie. Dwi ddim yn cofio fy rhieni yn sôn rhyw lawer am fy nghyn-deidiau ond rwy wedi dysgu llawer tra'n ymchwilio. Ro'n i yn fy nagrau yn clywed hanes aelodau fy nheulu yn ystod y ddau ryfel byd a ffawd fy ewythr David Leslie Griffith yn ystod y glanio yn Normandi.
Doedd dim dewis gan y dynion a'r gwragedd ifanc yma ac ry'n ni wedi elwa cymaint o'u haberthion.
Mi wnes i fwynhau fy ymweliad â Chymru. Ond ydw i'n barod i ddod nôl yn barhaol? "Never say never" yw'r dywediad. Rwy'n mwynhau bywyd yn LA gyda Alice a'r plant. Mae'n fywyd braf.
Ond pwy â ŵyr pan fyddai'n dipyn hŷn, ynghanol rhyw bwl o hiraeth...