Capel ger Llanelwy yn cynnig gofal i'r gymuned
- Cyhoeddwyd
Mae capel bychan Waengoleugoed ar gyrion Llanelwy yn darparu cynllun gofal £15,000 yn wirfoddol ac mae galw cynyddol am ehangu'r ddarpariaeth.
Dim ond pedwar aelod sydd 'na ar lyfrau'r capel ac er bod yna gynulleidfa ehangach nid yw honno chwaith yn fawr.
Ond rhyngddynt ers pum mlynedd maen nhw wedi bod yn cynnal cynllun gofal un diwrnod yr wythnos i'r gymuned.
Eleni mae'r ddarpariaeth honno wedi ehangu oherwydd galw cynyddol am wasanaeth o'r fath.
Bydd ymdrech hefyd i gadw cysylltiad gyda'r rhai sydd heb deulu a'r mwyaf anghenus dros y Nadolig.
'Diwylliant cwbl ddieithr'
Un sy'n gysylltiedig â'r cynllun yw Yr Athro Mari Lloyd Williams, ymgynghorydd gofal lliniarol mewn ysbyty yn Lerpwl.
"Roeddwn yn gweld bod cynllun o'r fath yn gwbl hanfodol, a'r hyn a'm symbylodd i ddechrau oedd gweld un ddynes o'r capel yn gorfod mynd i rywle cwbl ddieithr i gael gofal dydd," meddai.
"Roedd chwarae bingo yn ddiwylliant cwbl ddieithr iddi.
"Ro'n ni hefyd yn sylweddoli fod unigrwydd yn broblem gynyddol a bod cael cwmni yn gwbl hanfodol i nifer.
Pryd bwyd da
"Dyw nifer ddim yn cael pryd cyllell a fforc - ond o ddod i'r ganolfan yma yng nghapel Waengoleugoed maen nhw yn cael pryd iawn ac yn cael cyfle i brynu pryd am £1 ar gyfer y diwrnod wedyn.
"Yn ddiweddar mae'r galw am ein gwasanaeth gan gynghorau sir ac yn y blaen wedi bod yn fawr. Felly bob yn ail wythnos ry'n yn cynnal deuddydd o ofal dydd.
"Mae gennym adeilad pwrpasol ar gyfer y gwaith.
"Hyd yn ddiweddar, dim ond cleifion canser oedd yn cael mynd i ganolfan dydd hosbis ac y mae hi dal yn anodd i gleifion gyda salwch arall gael lle - ry'n felly yn aml yn llenwi'r bwlch hwnnw.
"Fe fydd pobol yn cyrraedd - tua 30 i gyd - tua 10.30 - ac rydym yn talu am eu cludo hwy yma.
"Wedi paned a thost, gweithgaredd, cinio ac yna gweithgaredd arall er enghraifft sgwrs, crefft, canu a phaentio.
"Yn ddiweddar mae ysgol Dewi Sant, Y Rhyl wedi dechrau dod atom unwaith y mis i gynnal gweithgareddau.
"Maen nhw yn mwynhau'r amrywiol weithgareddau ond y peth pwysicaf yw'r gwmnïaeth.
"Mae gennym ddeuddeg o wirfoddolwyr cyson - i ddweud y gwir i bobol sy'n dioddef o gyflyrau megis dementia ac yn y blaen mae'n bwysig cael yr un gofalwyr er mwyn peidio eu drysu.
"Mae'r cyfan yn digwydd yn enw'r capel, ac fe fyddwn yn dweud gras a chynnal ambell wasanaeth ond dy'n ni ddim yma i achub eneidiau.
"Does dim rhaid bod ag unrhyw gysylltiad â chapel i ddod yma," ychwanegodd Mari.
"Mae'r cyfan yn costio tua £15,000 wrth i ni dalu am drafnidiaeth, hyfforddiant cymorth cyntaf, bwyd a gweithgareddau. Felly mae pob rhodd, am ambell grant achlysurol yn gymorth mawr.
"Ry'n hefyd yn cynnal ffeiriau, boreau coffi ac mae gennym siop fechan.
'Rhoi golau ym mywyd rhywun'
"Yn ddiweddar mae'r capel yn ogystal wedi dechrau ar gynllun ymweld 'Helpu ein gilydd' ac y mae galw mawr am y cynllun hwnnw hefyd - weithiau byddwn yn treulio pedair awr gyda pherson er mwyn rhoi ysbaid i'r gofalwr.
"Yr hyn sy'n dda am y cynllun hwn yw bod pobl iau, sydd fel arfer yn gweithio yn ystod yr wythnos, yn gallu ein helpu ar benwythnos.
"Dros y Nadolig fe fydd y gwirfoddolwyr yn cael seibiant byr ond fe fyddwn yn cadw cysylltiad â'r rhai sydd heb deulu a'r mwyaf anghenus.
"Ry'n eisoes wedi cael ein cinio Nadolig ac fe ddaeth 50 i wledda - hyfryd gweld cymaint.
"Rwy'n falch iawn i ni ddechrau ar gynlluniau o'r fath," meddai Mari.
"Mae'n syndod faint o bobl sy'n unig ac wedi colli'r awydd i wneud pethau - nifer heb deulu ac eraill wedi colli eu plant. Mae rhoi rhywfaint o olau yn eu bywyd yn wefr."