Mastiau ffôn: Galw ar Gymru i newid rheolau cynllunio

  • Cyhoeddwyd
Mast ffônFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae'n bosib y bydd rheolau cynllunio ar gyfer mastiau ffonau symudol yn cael eu llacio er mwyn gwella'r signal.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod eisiau asesu'r dystiolaeth yn gyntaf cyn gwneud penderfyniad.

Ond mae'r rheolau wedi newid yn Lloegr yn barod er mwyn ei gwneud hi'n haws codi mastiau uwch sy'n lledu'r signal i fwy o bobl.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns ei fod wedi siomi bod Cymru yn "dilyn, ac nid yn arwain".

Caniatâd cyflymach

Yn dilyn newidiadau diweddar, does dim rhaid cael caniatâd cynllunio llawn i godi mastiau hyd at 25m yn Lloegr, neu 20m mewn ardaloedd sydd wedi eu gwarchod, fel parciau cenedlaethol.

Yng Nghymru, 15m yw'r uchder mwyaf.

Dan drefn o'r enw Hawliau Datblygu a Ganiateir, gall mastiau hyd at yr uchder yna gael caniatâd gan yr awdurdod lleol yn gyflymach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwaith ymchwil ar fabwysiadau'r un hawliau a Lloegr.

Maen nhw'n gobeithio derbyn adroddiad cyn yr haf nesaf, cyn ymgynghori ar unrhyw newidiadau posib.

Disgrifiad,

Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns yn trafod rhai o'r posibiliadau ar gyfer y dyfodol

Yn ôl Mr Cairns, mae hynny yn gam cadarnhaol, ond yn un hwyr.

"Rwy'n poeni y gallai Cymru fod efallai hyd at 12 mis tu 'nôl i Loegr eto, heb unrhyw reswm ymarferol," meddai wrth BBC Cymru.

Ychwanegodd bod perygl y byddai cwmnïau ffonau yn gwario eu harian yn Lloegr os oedd modd iddyn nhw gyrraedd mwy o gwsmeriaid yno.

'Tystiolaeth gadarn'

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n cymryd agwedd gyfrifol ar y mater hwn.

"Ry'n ni'n teimlo ei bod hi'n hanfodol i gael tystiolaeth gadarn, ddibynadwy i gefnogi unrhyw newidiadau y gallwn ni ei wneud.

"Mae'n rhaid sicrhau bod y dystiolaeth yn ateb amgylchiadau penodol a thirlun Cymru."

"Byddwn yn comisiynu gwaith ymchwil yn y Flwyddyn Newydd fydd yn edrych ar y wybodaeth angenrheidiol a gwneud argymhellion ar unrhyw newidiadau posib."

Mae galwadau i ganiatáu i gwsmeriaid grwydro rhwng rhwydweithiau mewn rhannau o'r DU sydd â signal gwan, fel sy'n bosib dramor.

Dywedodd Mr Cairns y byddai Llywodraeth y DU yn fodlon ystyried unrhyw alwadau i ymestyn rhwydweithiau.

Yn ôl Ofcom, gall 73% o dai yng Nghymru derbyn signal ar gyfer galwadau ffôn symudol - o'i gymharu â 65% llynedd - ond dim ond 57% o dai sydd â signal ar gyfer lawrlwytho data ar ffonau clyfar.