'Dim rhwystr' i ddefnyddio'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Pwyllgor Gweithdrefnol Tŷ'r Cyffredin wedi dod i'r casgliad nad oes rhwystr technegol pam na ellid defnyddio'r Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg yn sesiynau'r Uwch-bwyllgor Cymreig yn San Steffan.
Cyhoeddodd y pwyllgor adroddiad ar ddefnyddio'r iaith yn y pwyllgorau hynny, yn dilyn cais gan Aelod Seneddol De Clwyd, Susan Elan Jones.
Ar hyn o bryd, mae modd defnyddio'r iaith Gymraeg mewn pwyllgorau dethol ac uwch-bwyllgorau yng Nghymru, yn unol â threfniadau gafodd eu cyflwyno ym 1996. Mae modd i dystion hefyd siarad Cymraeg wrth roi tystiolaeth i bwyllgorau dethol yn San Steffan.
Eisoes mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi cael cefnogaeth gref i amrywio trefniadau 1996 er mwyn caniatáu'r defnydd o'r Gymraeg yn y Uwch-bwyllgor, ond mae mwyafrif aelodau'r Panel o Gadeiryddion wedi gwrthwynebu wrth ymateb i ymgynghoriad ar y mater.
Dywedodd y pwyllgor eu bod yn cydnabod statws unigryw'r iaith fel iaith sy'n cael ei hamddiffyn yng Nghymru, ac nad yw'n beirniadu'r trefniadau presennol.
Tra bo'r pwyllgor yn dal at yr egwyddor mai Saesneg yw iaith Tŷ'r Cyffredin, daeth i'r casgliad nad oes yna rwystr i ddefnyddio'r Gymraeg yn sesiynau'r uwch-bwyllgor yn San Steffan, ac y byddai'r gost ychwanegol o wneud hynny yn is na chost cynnal y pwyllgor yng Nghymru.
Ers 1996, mae'r Uwch-bwyllgor Cymreig wedi cwrdd yng Nghymru chwech o weithiau, y tro diwethaf yn 2011.
Yn yr adroddiad, mae'r pwyllgor yn argymell y dylai'r Tŷ benderfynu a ddylid ehangu ar drefniadau 1996 er mwyn caniatáu defnyddio'r Gymraeg yn sesiynau'r Uwch Bwyllgor Cymreig yn San Steffan, ac y gellid ystyried y cynnig yn ystod amser wedi ei glustnodi gan y Pwyllgor Busnes Meinciau Cefn.