2,200 o eitemau ar goll yn y Llyfrgell Genedlaethol

Mae gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ei disgrifio fel "un o lyfrgelloedd mawr y byd"
- Cyhoeddwyd
Mae tua 2,200 o eitemau ar goll yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth - cynnydd o 84% mewn dwy flynedd.
Ymhlith yr archifau a llawysgrifau ar goll mae gweithredoedd (deeds) Castell Powis o'r 13eg ganrif, dogfennau o Gastell Gwrych yn Abergele a dogfennau o gasgliad y llenor a'r ysgolhaig T Gwynn Jones.
Ymhlith y llyfrau ar goll mae hanes adeilad y llyfrgell ei hun gan Daniel Huws, Cyfansoddiadau'r Eisteddfod Genedlaethol 1932-35 a Gweledigaethau y Bardd Cwsg gan Ellis Wynne - un o glasuron rhyddiaith Gymraeg y 18fed ganrif.
Dywedodd llefarydd ar ran y Llyfrgell Genedlaethol eu bod wedi "cyflwyno prosesau gwirio stoc newydd" ac o ganlyniad i hynny wedi "llwyr ddisgwyl y byddai cynnydd yn yr eitemau sydd wedi eu cofnodi fel rhai sydd ddim yn eu lleoliad cywir".
Mae'r llyfrgell yn creu adran "gofal casgliadau" newydd ac yn recriwtio pennaeth ar hyn o bryd, yn ogystal â phennaeth casgliadau unigryw.

Mae gweithredoedd Castell Powis, ger y Trallwng, ar goll
Mae nifer yr eitemau sydd ar goll yn sylweddol uwch na'r 1,196 oedd ar goll pan wnaeth BBC Cymru gais rhyddid gwybodaeth yn 2023.
Mae'n llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod ganddi hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ac ni chaniateir cymryd unrhyw eitemau o'r adeilad.
O'r 2,206 eitem ar goll yn y rhestr gyfredol, dangosodd y cais diweddaraf o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan BBC Cymru fod:
1,708 o lyfrau a chylchgronau ar goll, rhai ers 1999;
393 map, rhai ers 1939;
82 yng nghategori "archifau a llawysgrifau", rhai ers 1978;
dwy eitem yng nghategori "lluniau a ffotograffau", y naill ers 2009 a'r llall ers 2023;
21 eitem Sgrin a Sain, rhai ers 2019.
Ymhlith archifau ar goll mae dogfennau o gasgliad J Glyn Davies - roedd Yr Athro R Geraint Gruffydd wedi dweud am ei waith bod "nodau athrylith ar ei ganeuon i blant, dolen allanol" gan gynnwys Cerddi Huw Puw (1923) a Cerddi Robin Goch (1935).
Hefyd ar goll mae papurau sy'n ymwneud â Chastell y Waun ger Wrecsam.

Mae'r paentiad hwn - John Parker of Sweeney Hall, gan Charles Edward Hallé - ar goll ers 2022
Hefyd ar goll mae rhifynnau o gylchgrawn y llyfrgell ei hun, Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Hanes Cerddoriaeth Cymru a Llais y Lli - papur myfyrwyr Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth.
Mae mapiau coll yn cynnwys sawl un yn ymwneud â Gogerddan, prif ystâd hen sir Ceredigion yn yr 17eg ganrif.
Ymhlith y llyfrau Cymraeg ar goll y mae:
Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros;
Trem ar hanes Cymru (1893);
Geiriau gorfoledd a galar / casglwyd gan D Geraint Lewis;
Peniarth 28: darluniau o Lyfr Cyfraith Hywel Dda;
Blodeugerdd o farddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif gan Gwynn ap Gwilym;
Enaid clwyfus: golwg ar waith Kate Roberts gan John Emyr;
Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru gan Meic Stephens;
Gweledigaethau y Bardd Cwsg;
Hi yw fy ffrind gan Bethan Gwanas;
Hwb i'r galon: atgofion Cassie Davies;
Cyfansoddiadau'r Eisteddfod Genedlaethol, 1932-35.
Mae'r recordiadau sain ar goll yn cynnwys Dŵr gan Huw Jones, Carlo gan Dafydd Iwan, a Colli iaith gan Heather Jones.

Mae Dr Rhodri Llwyd Morgan wedi bod yn brif weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru ers blwyddyn
Dywedodd pennaeth cyfathrebu'r llyfrgell, Rhodri ap Dyfrig, eu bod wedi "cyflwyno prosesau gwirio stoc newydd ar gyfer casgliadau cyhoeddedig ac felly roeddem yn llwyr ddisgwyl y byddai cynnydd yn yr eitemau sydd wedi eu cofnodi fel rhai sydd ddim yn eu lleoliad cywir".
Ychwanegodd: "Mae'r broses o fonitro camleoli yn digwydd yn barhaus a thrylwyr ac mae'r gwirio hyn yn rhan arferol ac allweddol o gynnal safonau ac arfer da yn y maes llyfrgellyddol.
"Oherwydd y monitro a'r gwaith cyson hyn mae'r data yr ydym yn ei ddarparu yn gip o gyfnod penodol mewn amser, ac mae'r ffigwr hwn yn codi ac yn gostwng yn gyson wrth ddod hyd ac ail-leoli eitemau."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mater i'r Llyfrgell Genedlaethol yw gofalu am ei chasgliadau a'u rheoli.
"Wrth wneud hynny, mae'n bodloni'r Achrediad Gwasanaeth Archifau – y safon ledled y DU ar gyfer gwasanaethau archifau."
Yn ymateb i'r sefyllfa ddiweddaraf, dywedodd llefarydd diwylliant Plaid Cymru, Heledd Fychan AS: "Er ein bod yn croesawu fod staff yn rhagweithiol yn monitro casgliadau, mae hi'n sefyllfa bryderus a rhaid gofyn cwestiynau am sut y gall hyn ddigwydd."
Mae hi hefyd yn galw ar Lywodaeth Cymru i wneud mwy, gan gyfeirio at "dros ddegawd o danariannu'r sectorau diwylliant a chelfyddydau yn arwain ar dorri swyddi ac adeiladau'n dirywio".
"Mae'n holl bwysig fod Llywodraeth Cymru nawr yn cydnabod effaith eu penderfyniadau a chymryd camau pendant i sicrhau bod gan ein sefydliadau staff digonol, systemau digidol a storfeydd pwrpasol a modern i sicrhau diogelwch ein casgliadau cenedlaethol," meddai.
Dim eitemau gwerth dros £10,000 ar goll
Mae casgliadau'r llyfrgell yn cynnwys saith miliwn o lyfrau a phapurau newydd, saith miliwn troedfedd o ffilm, 1.5 miliwn mapiau, 950,000 ffotograffau a 40,000 llawysgrifau, wedi eu lleoli ar draws 160 o filltiroedd o silffoedd.
Mae'r llyfrgell yn cynnal archwiliad blynyddol o ddeunydd gwerth mwy na £10,000 ac ni chanfuwyd unrhyw eitemau ar goll sy'n croesi'r trothwy hwnnw dros y flwyddyn ddiwethaf.
Sefydlwyd y llyfrgell yn 1907 a dechreuwyd defnyddio yr adeilad ar riw Pen-glais uwchben tref Aberystwyth yn 1916.
Mae sawl estyniad wedi cael eu hychwanegu ers hynny, ac yn 1996 cafodd storfa fawr newydd ei hagor.
Eleni mae prosiect mawr a gostiodd £1.58m wedi ei gwblhau i atgyweirio to'r llyfrgell.
Yn 2025-26, mae'r llywodraeth wedi rhoi £1.26m i'r llyfrgell ar gyfer gwaith gwella stac llyfrau 1 a 2, a £1m pellach tuag at ddigido a storio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2023
- Cyhoeddwyd15 Chwefror