Ymchwil yn dangos 'tueddiad cryf at enwau lleoedd Cymraeg'

Roedd yr ymchwil yn canolbwyntio'n bennaf ar enwau eiddo, busnesau a strydoedd
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwil newydd ar sut mae enwau eiddo, strydoedd a busnesau yn newid ledled Cymru yn dangos tueddiad cryf at ddefnyddio enwau lleoedd Cymraeg.
Mae adroddiad wedi canfod bod awdurdodau lleol Cymru wedi derbyn tair gwaith yn fwy o geisiadau am enwau strydoedd Cymraeg nag enwau Saesneg rhwng 2018 a 2023.
Roedd 338 o geisiadau am enwau strydoedd Cymraeg, o'i gymharu â 95 o rai Saesneg.
Mae'r adroddiad wedi canfod hefyd bod mwy o bobl yn rhoi enwau Cymraeg (1,444) ar eu heiddo, nag enw Saesneg (1,125).
Ond wrth edrych ar eiddo sy'n newid enw o un iaith i'r llall, mae tair gwaith yn fwy o enwau tai yn cael eu newid o'r Saesneg i'r Gymraeg (329), na'r ffordd arall (121).
Mae mwy o enwau tai yn cael eu newid o'r Saesneg i'r Gymraeg nag o'r Gymraeg i'r Saesneg ym mhob rhanbarth o Gymru, medd Llywodraeth Cymru, a gomisiynodd yr ymchwil.

Dywedodd Mark Drakeford fod "enwau lleoedd yn helpu i adrodd stori pwy ydym ni fel cenedl"
Yn ôl yr adroddiad, mae pobl yn dweud bod cael enwau tai Cymraeg yn rhoi ymdeimlad o falchder iddyn nhw.
Mae'r ymchwil hefyd yn dangos nad yw'r rhan fwyaf o newidiadau i enwau eiddo yn cynnwys newid yn yr iaith.
Roedd yr ymchwil yn canolbwyntio'n bennaf ar enwau eiddo, busnesau a strydoedd.
Mae'r adroddiad yn pwysleisio bod angen ymchwil pellach i enwau ar gyfer nodweddion topograffig, fel mynyddoedd a llynnoedd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Gymraeg, Mark Drakeford, fod "enwau lleoedd yn helpu i adrodd stori pwy ydym ni fel cenedl, ac mae'r gwaith ymchwil newydd hwn yn ein helpu i ddeall ein tirwedd ieithyddol".
Ychwanegodd ei fod yn "falch o weld mwy o bobl yn cofleidio enwau eiddo Cymraeg, waeth beth fo'u cefndir".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd31 Mawrth
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2023