Achub Groegwyr oddi ar arfordir Môn 'yn wyrth'
- Cyhoeddwyd
Roedd achub 15 morwr o wlad Groeg oddi ar arfordir Môn 50 mlynedd yn "wyrth", yn ôl cyn-aelod o fad achub Caergybi.
Mae Eric Jones yn byw yng nghartref gofal Rhos ym Malltraeth erbyn hyn, ond nôl yn y chwedegau roedd yn aelod o griw'r bad achub.
Ym mis Rhagfyr 1966 mi gawson nhw - a bad achub Moelfre - eu galw allan i roi cymorth i'r llong Nafisporos o wlad Groeg oedd mewn trafferthion.
Roedd hi'n ddiwrnod eithriadol o stormus.
"Mi gawson ni gythraul o job ffeindio'r llong", meddai Mr Jones wrth gael ei holi ar raglen y Post Prynhawn.
"Mi roedd hi wedi ei hangori ger Ynys Manaw, ond ar ôl colli ei hangor mi wnaeth hi ddechrau drifftio lawr am Sir Fôn. Oherwydd ei bod hi'n wag mi oedd hi'n mynd fel balŵn."
Mae Eric Jones yn cofio clywed capten y llong o wlad Groeg yn dweud ei fod am geisio gollwng yr angor unwaith yn rhagor - ac yn wyrthiol mi lwyddodd i wneud hynny.
"Mi ddaliodd yr angor. Wyddoch chi be' - os buodd 'na lwc yn canlyn dyn erioed, mi ddigwyddodd y diwrnod hwnnw ac mi oeddwn i'n falch ddifrifol ein bod ni wedi medru safio bywydau.
"Does 'na ddim drws cefn i'r môr. 'Dach chi'n mynd i'r môr drwy'r drws ffrynt - does 'na ddim drws cefn i ddengid.
"Roedd y Groegwyr mewn sioc - ddim yn deud gair o'u pennau. Doedden nhw ddim yn sylweddoli ar y pryd eu bod nhw wedi cael eu safio o ddisaster i le saff. "
Ddechrau Rhagfyr mi gyflwynwyd tystysgrif arbennig gan gymdeithas bad achub yr RNLI i gofio am waith Eric Jones yn helpu i ddod â chriw'r Nafisporos i'r lan.
Wrth hel atgofion - ag yntau dros ei 80 - mae Eric Jones yn falch ei fod wedi bod yn rhan o ddigwyddiad mor nodedig a achubodd 15 o ddynion.