Pryder am doriadau i wasanaethau cerddoriaeth ysgolion
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gadeirydd adolygiad Llywodraeth Cymru o wasanaethau cerddorol ysgolion Cymru yn amau a oes ewyllys gwleidyddol yng Nghymru i sicrhau bod gwasanaethau cerddoriaeth mewn ysgolion yn ddigon o flaenoriaeth.
Yn ôl Emyr Wynne Jones, sy'n ymgynghorydd cerddoriaeth ac yn gyn-drefnydd cerddoriaeth Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, mae llai o gerddorion safonol yn dod drwy'r system erbyn hyn.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod cerddoriaeth yn "parhau i fod yn rhan bwysig o'r cwricwlwm yng Nghymru".
"Mae'n rhaid i ni fel cenedl benderfynu faint o flaenoriaeth yw hon," meddai Mr Jones wrth raglen Taro'r Post Radio Cymru.
"Oes 'na ewyllys gwleidyddol yma yng Nghymru i sicrhau bod hwn yn ddigon o flaenoriaeth i ni fel cenedl? Dwi'n pryderu nad oes 'na."
"Dwi'n deall yn fwy na neb y cyd-destun, y pwysau sydd ar ysgolion yn ariannol, y pwysau sydd ar awdurdodau lleol yn ariannol.
"Dwi'n deall y cyd-destun hynny, ond yng nghanol hyn i gyd dwi ddim yn siŵr bod 'na wir ewyllys i fynd i'r afael â'r sefyllfa."
'Llai o gerddorion'
Bu Mr Jones yn arwain Cerddorfa Ieuenctid y Tair Sir am 18 mlynedd, ac mae'n pryderu beth fydd y diffyg ewyllys yn ei olygu o ran datblygu cerddorion y dyfodol.
"O'r hyn dwi'n ei weld mae llai a llai o gerddorion safonol yn dod trwy'n system ni o ganlyniad i'r toriadau hyn, ac yn y dyfodol bydd pobl yn gofyn beth sydd wedi mynd o'i le," meddai.
Dywedodd cyn-enillydd Tlws y Cerddor ac Ysgoloriaeth Bryn Terfel, Rhys Taylor wrth y rhaglen bod angen addasu'r system.
"Mae'r holl blant yma'n ysu at ddysgu offeryn," meddai.
"Os yw'r llywodraeth yn dweud eu bod nhw am dalu i brynu offerynnau, allwch chi ddim llwytho offerynnau mewn i'r system a pheidio rhoi hyfforddwyr i hyfforddi.
"Byddai hynny'n wastraff arian a waeth iddyn nhw wario fo ar rywbeth arall.
"Mae'r athrawon yn hollbwysig, a heb yr athrawon fydd 'na ddim hyfforddiant, fydd 'na ddim mwynhad a fydd y plant a phobl ifanc methu cael gwersi."
'Trist ofnadwy'
Bu'r gitarydd Peredur Ap Gwynedd, sy'n aelod o fand Pendulum sy'n chwarae ar draws y byd, yn sôn wrth y rhaglen hefyd am bwysigrwydd y gwersi offerynnol a gafodd yn yr ysgol.
"O'dd yr athrawon cerdd oedd yn yr ysgol efo fi yn lot fawr o help," meddai.
"Byddai'n drist ofnadwy pe bai rhywun ddim yn cael y cyfle yna i wneud fel nes i."
Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod cerddoriaeth yn "parhau i fod yn rhan bwysig o'r cwricwlwm yng Nghymru".
"Rydym wedi ymrwymo i ddarparu pobl ifanc â chyfleoedd i ddatblygu eu dawn gerddorol mewn ysgolion a thrwy grwpiau cerddoriaeth," meddai.
"Mae astudiaeth ddichonoldeb at sefydlu Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth wedi digwydd a bydd datganiad ffurfiol arno yn gynnar flwyddyn nesaf."