Cyfarfod i drafod y difrod i do'r ysgol yn Rhosgadfan
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfarfod brys yn cael ei gynnal yn Rhosgadfan ger Caernarfon wedi'r Nadolig i drafod y difrod sydd wedi ei wneud i'r ysgol leol gan wyntoedd cryfion.
To'r ysgol gafodd ei effeithio gan y tywydd garw brynhawn dydd Gwener.
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud bod y safle wedi'i ddiogelu er mwyn iddyn nhw asesu'r difrod.
Mae'r disgyblion i fod i ddychwelyd i'r ysgol ar ôl y gwyliau Nadolig ar 3 Ionawr.
Roedd gwyntoedd cryfion hyd at 50-60mya mewn rhai ardaloedd yng Nghymru a glaw trwm oedd yn gwneud amodau gyrru gwael.
Roedd oedi ar y trenau a bu'n rhaid canslo chwe siwrne llong rhwng Caergybi a Dulyn.