18,000 o ymosodiadau ar staff y Gwasanaeth Iechyd
- Cyhoeddwyd
Dros 18,000 o ymosodiadau ar weithwyr: Adroddiad Dafydd Evans
Mae staff ysbyty y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru wedi diodde' 18,000 o ymosodiadau corfforol yn y gweithle dros y pum mlynedd ddiwethaf.
Dangosodd ffigyrau ddaeth i law o ganlyniad i gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth bod 11,000 o ymosodiadau geiriol.
Ond dros yr un cyfnod roedd 4,000 o ymosodiadau geiriol a chorfforol ar weithwyr y gwasanaethau brys eraill.
Dywedodd cyrff sy'n cynrychioli meddygon a nyrsys bod y ffigyrau yn "destun pryder" ac yn "annerbyniol".
'Testun pryder'
Yn ôl Peter Meredith-Smith o'r Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, doedd y ffigyrau ddim yn syndod.
"Mae'r broblem o drais tuag at staff rheng flaen y GIG wedi bodoli ers tro," meddai.
"Dyw hyn ddim yn golygu bod y sefyllfa'n gwaethygu - efallai bod ymateb y system yn gwella, neu fod adrodd am ddigwyddiadau o'r math yn gwella ac efallai bod staff yn cael mwy o gefnogaeth i adrodd am faterion fel hyn a'u datrys.
"Ond yn amlwg mae'n destun pryder bod staff clinigol ar y rheng flaen yn gorfod wynebu'r math yma o ymddygiad yn gyson."
Ychwanegodd Mr Meredith-Smith bod cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Prif Gwnstabliaid yr Heddlu a'r GIG am sut i gynorthwyo staff sy'n delio gyda throseddwyr.
Dywedodd hefyd bod gwelliannau wedi bod wrth amddiffyn staff, ond roedd yn derbyn bod angen gwneud mwy.

Mae Dr Phil Banfield o'r BMA yn credu bod camddefnyddio alcohol yn cael "effaith sylweddol" ar y ffigyrau
Ond fe ddywedodd Dr Phil Banfield, cadeirydd cymdeithas y BMA, bod angen rhoi'r ffigyrau mewn cyd-destun.
"Mae'r camddefnydd o alcohol yn cael effaith sylweddol ar drais mewn adrannau damweiniau ysbytai, ac mae'n glir bod angen gwneud mwy y tu allan i sefyllfaoedd meddygol i leihau'r camddefnydd o alcohol," meddai.
"Hefyd mae ymosodiadau'n gallu digwydd wrth drin cleifion bregus, hŷn sydd â dementia neu'r rhai sydd â chyflyrau iechyd meddwl difrifol.
"Mae'n bosib priodoli'r rhain i gleifion sy'n cael eu gyrru i sefyllfaoedd argyfwng yn amhriodol oherwydd prinder gwelyau neu fylchau yn y ddarpariaeth o ofal cymdeithasol, ac mae hynny'n gallu bod yn waeth oherwydd prinder staff neu adnoddau."
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "camau sylweddol wedi'u cymryd" i annog staff i adrodd am ddigwyddiadau treisgar fel y gall erlyniadau ddigwydd, ac roedden nhw'n pwysleisio na fyddai ymosodiadau'n cael eu caniatáu.