£500,000 ar gyfer clybiau hwyl a chinio yn yr haf

  • Cyhoeddwyd
Plant yn bwyta cinio mewn ysgolFfynhonnell y llun, Thinkstock

Bydd £500,000 yn cael ei wario ar ariannu clybiau hwyl a chinio newydd yn ystod gwyliau'r haf, medd ysgrifennydd addysg Cymru Kirsty Williams.

Fe fydd yr arian yn cael ei gynnig i gynghorau yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru er mwyn darparu rhaglen o weithgareddau hwyl a chinio yn ystod y gwyliau hir.

Ychwanegodd Ms Williams y bydd yna hefyd elfen o addysg yn perthyn i'r clybiau ac fe fydd prifysgolion Cymru yn rhan o'r cynlluniau,

"Bydd y clybiau hyn yn cynnig amgylchedd positif i'n holl blant yn ystod gwyliau'r haf," meddai.

'Cyfnod anodd'

Ychwanegodd: "Y realiti i rai o'n plant yw bod gwyliau'r haf yn gallu bod yn gyfnod anodd.

"Mae plant sy'n cael brecwast a chinio am ddim yn yr ysgol yn aml yn mynd heb brydau bwyd ac yn llwgu unwaith y bydd drysau'r ysgol yn cau am y gwyliau.

"Gall diffyg cynlluniau chwarae a gweithgareddau chwaraeon am ddim hefyd gael effaith ar y rhai hynny sy'n dod o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig."

Mae pum awdurdod lleol eisoes yn cynnal cynlluniau tebyg ac fe ddywed Llywodraeth Cymru y bydd modd i gynghorau gael arian ar gyfer mentrau newydd ym mlwyddyn ariannol 2017-18.

Fe fydd yr arian yn cael ei ddosbarthu mewn cydweithrediad a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.