Y pentref solar cyntaf yng Nghymru yn agor
- Cyhoeddwyd
![Pentre Solar](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/5FD9/production/_93273542_ty-solar.jpg)
Pentref Solar ydi'r pentref cyntaf o'i fath yng Nghymru
Bydd y pentref solar cyntaf yng Nghymru yn agor yn swyddogol yng ngogledd Sir Benfro ddydd Iau.
Y gobaith yw y bydd y chwech cartref pren ym Mhentre Solar, Glanrhyd, ar gyrion Aberteifi, yn arbed cannoedd o bunnoedd y flwyddyn o gostau byw i'r tenantiaid.
Mae to'r tai hefyd wedi ei wneud o baneli solar, sy'n gallu cynhyrchu 6000kWh y flwyddyn.
Yr Ysgrifennydd Amgylchedd Leslie Griffiths fydd yn agor y pentref: "Dyma bentref dyfeisgar a fydd yn darparu cartrefi i bobl leol ond sydd hefyd yn datrys problem tlodi egni."
Cafodd tŷ prototeip Tŷ Solar gan gwmni Western Solar ei agor yn 2013 gan y Prif Weinidog Carwyn Jones.
![Tŷ Solar](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/10154/production/_93267856_img_1832.jpg)
Tu mewn i'r Tŷ Solar
'Biliau gwresogi îs'
Cyfrannodd Llywodraeth Cymru swm cychwynnol o £141,000 at fan cynhyrchu'r tai, gan greu swyddi a chyfleoedd hyfforddi newydd.
Yn ôl cwmni Western Solar, o ddefnyddio ychydig o ynni a rhannu car trydan, mi allai'r tenantiaid arbed hyd at £2,000 y flwyddyn.
Fe fydd y tai yn cartrefu tenantiaid sydd wedi bod ar restr aros gwasanaethau cymdeithasol Sir Benfro.
![Pentre Solar](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1693C/production/_93267429_fullsizerender-2.jpg)
Mae't tai wedi cael eu hadeiladu'n rhannol o bren o Gymru
Dywedodd Prif weithredwr Western Solar Ltd, Dr Glen Peters: "Rydym wedi adeiladu'r pentref yma i ddangos i'r rhai sydd yn amau'r math yma o ddatblygiad nad oes rhaid i bobl ddewis mwyach rhwng rhoi bwyd ar y ford â chadw'n gynnes."
Yn ystod y deng mlynedd nesaf, mae'r cwmni yn cynllunio i adeiladu 1,000 o dai gyda chymorth partneriaethau gyda darparwyr tai a buddsoddwyr.
Ddydd Iau, fe fydd Ysgrifennydd yr Amgylchedd yn rhoi'r allweddi i'r tenantiaid newydd.
"Dwi'n siŵr y bydd y tenantiaid newydd," meddai, "yn hapus iawn yn eu tai newydd wrth iddyn nhw ddefnyddio llawer llai o ynni a chael biliau gwresogi is."