Dychwelyd i'r dosbarth wedi difrod i do ysgol
- Cyhoeddwyd
Yn dilyn difrod sylweddol i do ysgol gynradd yng Ngwynedd wedi storm, mae disgwyl i blant ysgol gynradd Rhosgadfan ddychwelyd i'w dosbarthiadau ddydd Iau, ond nid i'r safle arferol.
Cyn y Nadolig, fe rwygodd storm Barbara do adeilad yr ysgol i ffwrdd.
Dywedodd un o bentrefwyr Rhosgafan, Lisa Davies: "Roedd sŵn y gwynt fel trên yn gwibio heibio... mi edrychais drwy'r ffenest a sylwi fod to yr ysgol wedi rhwygo i ffwrdd."
Wrth i'r gwaith asesu ac atgyweirio fynd yn ei flaen, mi oedd y gymuned a'r cyngor yn benderfynol nad oedd y plant yn mynd i golli mwy o wersi nag oedd angen.
Mi fydd y dosbarthiadau dros dro yn y clwb pêl-droed lleol, ac yng nghanolfan dreftadaeth Cae'r Gors, hen gartre'r awdur Kate Roberts.
Dywedodd Pennaeth Ysgol Rhosgadfan, Paul Carr: "Roedd y difrod a achoswyd i ran o'r ysgol ddydd Gwener diwethaf yn ddychrynllyd, ond mi fyddwn i'n hoffi dangos ein diolch a'n gwerthfawrogiad fel ysgol i bawb sydd wedi cynnig cymorth dros y dyddiau diwethaf."
Meddai'r Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd: "Mae'r ysbryd cymunedol sydd wedi ei amlygu dros y dyddiau diwethaf wedi bod yn allweddol bwysig i'r Cyngor geisio canfod datrysiad dros dro i'r sefyllfa yn Rhosgadfan. Diolch i gydweithrediad yr aelod lleol, clwb pêl-droed y Mountain Rangers, Cadw a holl staff y Cyngor a'r ysgol ei hun,
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cynorthwyo. Wrth gwrs, bydd angen rhagor o waith cyn i ni wybod union natur y gwaith atgyweirio fydd ei angen, ond bydd y Cyngor a'r ysgol yn diweddaru rhieni gydag unrhyw wybodaeth pan fydd y disgyblion yn ôl yn eu gwersi."