'Cymdeithas fodern ddim yn caniatáu taro plant'
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland wedi mynnu nad yw cymdeithas fodern yn un sydd yn caniatáu taro plant.
Daw ei sylwadau wrth i'r cynlluniau ar gyfer diwygiad i Fesur Cymru ddatganoli pwerau dros ddisgyblu plant i Lywodraeth Cymru. Ddydd Mawrth mae disgwyl i'r cynlluniau gael sêl bendith Tŷ'r Arglwyddi.
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru fod y gwelliant yn ei gwneud yn glir y byddai gan weinidogion Cymru yr hawl, pe bai nhw'n dymuno, i'w gwneud yn anghyfreithlon i rieni guro eu plant.
Yn eu maniffesto, cyn etholiadau'r Cynulliad y llynedd, fe wnaeth Llafur addo y bydden nhw'n ceisio cefnogaeth amlbleidiol ar gyfer deddfwriaeth newydd a fyddai'n rhoi diwedd i'r amddiffyniad cyfreithiol o "gosb resymol" wrth guro plant.
Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi lleisio cefnogaeth i'r syniad o wahardd rhieni rhag defnyddio curo fel modd o ddisgyblu.
Ym mis Mawrth 2015, fe wnaeth aelodau'r Cynulliad bleidleisio yn erbyn cynnig i geisio cynnwys gwaharddiad ar guro plant fel rhan o'r Deddf Trais yn erbyn Menywod, Camdrin Domestig a Thrais Rhywiol.
Dywedodd Leighton Andrews, y gweinidog gwasanaethau cyhoeddus ar y pryd, ei fod yn teimlo nad y Ddeddf Trais oedd y lle cywir i fynd i'r afael â'r mater.
Ddydd Llun fe ddywedodd Sally Holland: "Mi gafodd y rhan fwyaf ohonom sydd o genhedlaeth arbennig, gan gynnwys fi fy hun, ein taro pan yn blant.
"Does 'na ddim lle i daro plant yn ein cymdeithas fodern. Rydw i'n gweld hyn fel achos hawliau dynol gan mai yr hyn ry'n yn geisio ei wneud yw rhoi yr un hawliau i blentyn ag i oedolyn ynglyn â pheidio cael ein taro."
Ychwanegodd Dr Holland bod Cymru wedi bod yn trafod y mater ers blynyddoedd a'i bod yn gobeithio gweld gwaharddiad yn y dyfodol agos.
Dywedodd ymhellach nad oedd yn disgwyl i don o rieni gael eu cosbi, ond mi fyddai yna erlyniadau petai plant yn cael eu niweidio'n barhaus.
Fore Llun ar un o raglenni trafod Radio Wales fe ddywedodd un dyn mai'r ffordd orau o ddisgyblu plentyn oedd "mynd â'u iPads oddi arnynt". Dywedodd un arall bod taro "yn y ffordd iawn" yn beth da.
"Pan oeddwn yn ifanc," meddai, "petawn yn cael smac mi fyddwn yn gwybod i beidio gwneud yr un peth eto."