Llywodraeth yn cadarnhau achos o ffliw adar yng Nghonwy

  • Cyhoeddwyd
corhwyadenFfynhonnell y llun, Jeslu

Mae Llywodraeth Cymru a'r RSPB wedi cadarnhau achos arall o ffliw adar, y tro hwn yng Nghonwy.

Dywedodd y llywodraeth bod corhwyaden wyllt wedi ei ganfod yn farw gyda straen H5N8 o'r afiechyd.

"Dydi'r canfyddiad hwn ddim yn annisgwyl, ac rydyn ni'n parhau i gadw golwg yn ogystal â galw ar y cyhoedd i'n hysbysu ni o unrhyw wyddau, hwyaid ac elyrch marw maen nhw'n eu canfod," meddai llefarydd.

Bu'n rhaid i ganolfan wlyptir yn Llanelli gau ym mis Rhagfyr wedi i aderyn gwyllt oedd hefyd yn cario'r afiechyd gael ei ganfod yno.

Mae canolfan yr RSPB yng Nghonwy yn parhau i fod ar agor ar hyn o bryd yn dilyn yr achos diweddaraf, ac fe ddywedodd yr elusen nad oedd risg i iechyd pobl.

Mae mesurau eisoes yn eu lle i gyfyngu ar symud adar yn dilyn achosion o'r afiechyd yn Ewrop, y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica.